John Troth OBE yn camu i lawr fel Cadeirydd Groundwork Gogledd Cymru

Mae prif swyddfa Groundwork Gogledd Cymru yn Nhan y Fron Wrecsam ac mae’n gweithio ochr yn ochr gyda chymunedau lleol, cyrff cyhoeddus, cwmnïau preifat a sefydliadau eraill y sector gwirfoddol sydd mewn angen. Mae’n cyflenwi prosiectau ar draws Gogledd Cymru i greu gwell cymdogaethau, meithrin sgiliau a helpu pobl i fyw a gweithio mewn ffordd fwy gwyrdd.

Mae John wedi bod yn gysylltiedig â’r elusen ers 1994 ac mae wedi gweld newidiadau anferth yn y gwasanaethau gall Groundwork Gogledd Cymru eu cynnig i’r cymunedau sy’n elwa ar ei gwaith.

Mae’r gwasanaethau bellach yn cynnwys darpariaeth hyfforddiant achrededig ar draws Cymru, rheoli Caffi Cyfle a’r Lleoliad yn y Parc ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun gan gefnogi bywydau unigolion ag anawsterau dysgu drwy’r rhaglen waith a gwirfoddoli fewnol, ac ailagor Pyllau Plwm y Mwynglawdd fel atyniad i ymwelwyr gan roi cyfle i bobl brofi’r dreftadaeth leol drwy gyfrwng y dirwedd naturiol.

Mae gwraig John, Judy Troth, yn cofio pa mor falch oedd John i ymuno â Groundwork Gogledd Cymru, oherwydd
“byddai’n gwneud rhywbeth da i’r amgylchedd a chymunedau lleol” pan gafodd ei benodi i’w swydd.

Wrth edrych yn ôl ar ei gyfnod gyda Groundwork Gogledd Cymru, dywedodd John “Mae wedi bod yn fraint fawr a phrofiad arbennig i weithio gyda thimoedd Groundwork Gogledd Cymru ac i gyflawni cynifer o bethau yng nghymunedau Gogledd Cymru dros y blynyddoedd. Bydd datblygiad yr Ymddiriedolaeth yn y dyfodol yn wynebu’r un heriau â phawb sy’n gweithio yn y Sector Gwirfoddol, ond rwyf yn hyderus bod gan y tîm y sgiliau a’r fenter i adeiladu ar eu cyflawniadau ac rwyf yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw gyda’r gwaith.

Mae John yn aelod uchel ei barch o gymuned fusnes Wrecsam a Gogledd Cymru, cafodd OBE yn 1991 am ei wasanaethau i allforio ar ôl treulio 25 mlynedd fel Rheolwr Gyfarwyddwr Dennis Ruabon; dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddo gan Brifysgol Glyndŵr yn 1992 am ei wasanaethau i lywodraethiant sefydliadol ac mae darlithfa wedi cael ei henwi ar ei ôl ar gampws Prifysgol Glyndŵr.
Dywedodd ei Gydweithiwr ac Ymddiriedolwr, Helen Wright :
“Ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, staff, gwirfoddolwyr a chefnogwyr Groundwork Gogledd Cymru, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i John am bopeth mae wedi ei wneud a’i gyflawni”

“Mae John wedi dod â llawer iawn o brofiad a gwybodaeth i Groundwork Gogledd Cymru a bydd yn anodd iawn llenwi ei esgidiau”

“Bydd Groundwork Gogledd Cymru yn recriwtio ar gyfer rôl y Cadeirydd ac ar gyfer ymddiriedolwyr ychwanegol dros y misoedd nesaf. Rydym yn sefydliad uchelgeisiol sy’n newid yn gyflym, ac rydym yn chwilio am Gadeirydd i gefnogi ein datblygiad a chynaliadwyedd ariannol. Bydd angen i’r sawl sydd â diddordeb yn y swydd hon rannu ein hangerdd am lesiant cymunedol a diogelu amgylcheddol a dangos awydd i ddatblygu busnes ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am swydd y Cadeirydd neu ymuno â bwrdd yr ymddiriedolwyr yn Groundwork Gogledd Cymru, mae croeso i chi gysylltu info@groundworknorthwales.org.uk / 01978 757 524 gan ofyn am sgwrs gyda Debbie Cleverley.