Mae egwyddor creu partneriaethau dynamig er mwyn gweithredu yn dal i fod yn ganolog i’n dull gweithio.

‘Ymunwch â’r FROGs’ oedd yr alwad i’r gad pan ddechreuodd Groundwork newid lleoedd a bywydau yn St Helens ar ymylon Glannau Mersi yn 1982. Roedd y ‘Friends of Operation Groundwork’ (FROGs) yn rhan hanfodol o’r model ar gyfer sefydliad newydd oedd yn rhoi prawf ar ffordd newydd o fynd i’r afael â rhai problemau newydd – ynghyd â rhai hen iawn.

Daeth y ffrindiau hynny o’r gymuned leol, ond roedden nhw hefyd yn cynnwys busnesau ac ysgolion lleol, a’r holl sefydliadau ac asiantaethau oedd â diddordeb mewn gwella gwead ffisegol a chymdeithasol yr ardaloedd yr oedd heriau lluosog wedi’u taro.

Join the FrOGS Volunteer recuitment advertYsgogwr Groundwork oedd y diweddar John Davidson, meddyliwr amgylcheddol oedd yn ysbrydoli pobl ac oedd yn gweithio i’r Comisiwn Cefn Gwlad ar y pryd.

Bu farw John yn 2012, ond mae ei weledigaeth ar gyfer Groundwork – dechrau’n lleol, rhoi’r offer iawn yn nwylo pobl, ymgysylltu â phawb sydd â buddiant mewn man a mynd i’r afael â chynifer o broblemau â phosibl gyda’r un buddsoddiad –yn dal i fod yn wir.

Ein ffordd o wneud pethau sydd bwysicaf – cyflawni canlyniadau trwy bobl. Mae hyn yn golygu gweithio gyda’n partneriaid mewn ffordd sy’n eu grymuso ac yn eu helpu i gyflawni eu hamcanion.

John Handley, Cyfarwyddwr Gweithredol, Chwefror 1982

Mewn llawer o ffyrdd mae rhai pethau’n edrych yn debyg iawn i 1982 wrth inni wynebu heriau economaidd, diweithdra ac aflonyddwch cymdeithasol unwaith eto.

Mae gennym hefyd heriau newydd wrth i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a phrinder adnoddau ddechrau gael effaith – gan effeithio fwyaf ar y rheiny sydd eisoes â’r lleiaf.

Yn awr, fel ar yr adeg honno, rydym ni’n cymryd camau ymarferol ac yn meithrin partneriaethau er mwyn newid lleoedd a newid bywydau.