Ein heffaith yn 2018

Mae Groundwork yn elusen sy’n gweithio’n genedlaethol a lleol i drawsnewid bywydau yng nghymunedau mwyaf difreintiedig y Deyrnas Unedig. 

Rydym ni’n helpu pobl i gyflawni miloedd o brosiectau pob blwyddyn. Mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Helpu pobl i godi allan o dlodi tanwydd. Dod â’r gorau allan o bobl ifanc trwy eu helpu i wella eu hardal leol. Adeiladu cymunedau cryfach trwy wella mannau gwyrdd. Helpu pobl i fynd yn ôl i’r gwaith a chreu swyddi gwyrdd.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, rydym ni wedi:

Buddsoddi £88 miliwn mewn cymunedau | Cynorthwyo 24,000 o grwpiau cymunedol gyda 400,000 o ddiwrnodau o weithgarwch gwirfoddol gan oedolion a phobl ifanc | Plannu 6,750 o goed | Helpu pobl i osgoi 4.8 miliwn o gilogramau o allyriadau CO2 | Helpu 65,000 o aelwydydd i fod yn fwy effeithlon o ran ynni a dŵr. 

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma: