Groundwork Gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru 2020 a drefnir gan Cadwch Gymru’n Daclus

Mae Groundwork Gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch ‘Gwanwyn Glân Cymru 2020’ a drefnir gan Cadwch Gymru’n Daclus. Y nod yw gweddnewid ein gwlad er gwell drwy gasglu a gwaredu gwastraff o’n strydoedd, parciau a thraethau, gan amddiffyn ein bywyd gwyllt, ac yn y pen draw, atal y llanw o blastig sy’n gwneud cymaint o ddifrod i’n cefnforoedd a’n bywyd morol.

Cynhelir Gwanwyn Glân Cymru rhwng 20 Mawrth a 13 Ebrill 2020 ac mae Groundwork yn trefnu nifer o ddigwyddiadau cysylltiedig ar draws Gogledd Cymru, gan estyn croeso i bawb ymuno.

Mae prosiect Ein Gardd Gefn yn cynnal 4 digwyddiad i dacluso ardal Cei Connah, Sir y Fflint, lle bydd croeso i bawb. Cynhelir y digwyddiad cyntaf yn y Parc Canolog, ddydd Sadwrn, 28 Mawrth rhwng 10 am a 12 pm, pawb i gyfarfod yn y maes parcio ger y clwb criced.

Dydd Mawrth, 31 Mawrth, cynhelir sesiwn dacluso ym Mharc Gwepra rhwng 10am a 12pm, pawb i gyfarfod yn y prif faes parcio.

Dydd Mercher, 1 Ebrill, bydd y criw yn tacluso Llwybr yr Arfordir yn ardal Cei Connah rhwng 10.30am ac 1.30pm, pawb i gyfarfod ger QWA ar Ffordd y Doc.

Cynhelir y digwyddiad tacluso olaf ddydd Sadwrn, 4 Ebrill, ym Mharc Gwepra o 11am ymlaen, pawb i gyfarfod yn y Ganolfan Ymwelwyr.

Mae Tîm Groundwork Gogledd Cymru ym Mangor yn cynnal digwyddiad ar 31 Mawrth 2020 i dacsluo ardal Maesgeirchen, Bangor rhwng 10.00am a 12.00pm, pawb i gyfarfod y tu allan i swyddfa’r Bartneriaeth ym Maesgeirchen, Bangor (LL57 1LT).

Mae prosiect Groundwork ym Mhlas Power, a ariennir gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, yn cynnal digwyddiad ar 2 Ebrill o 10.30am ymlaen. Bydd digwyddiad “Tacluso Glofa Plas Power” yn cael ei gynnal ger safle Groundwork Gogledd Cymru yn Nhanyfron, Wrecsam.

Mae prosiect Gofalwn yn cynnal digwyddiad ar 4 Ebrill i dacluso ardaloedd yn y Fflint rhwng 10.30 a 1.00 pm, pawb i gyfarfod wrth ymyl gorsaf y bad achub ger Castell y Fflint.

Dywedodd Hanna Clarke, Rheolwr Marchnata a Digwyddiadau, Groundwork Gogledd Cymru, “Rydyn ni’n estyn croeso i bawb ymuno â’n digwyddiadau tacluso ac rydyn ni’n gobeithio y bydd cymunedau yn dod ynghyd i ddangos eu balchder tuag at yr ardaloedd lle maen nhw’n byw a gweithio”.

Mae manylion yr holl ddigwyddiadau ar ein gwefan www.groundworknorthwales/volunteerevents ac ar y cyfryngau cymdeithasol neu ffoniwch Groundwork Gogledd Cymru ar 01978 757524

Our Back Yard