Groundwork Gogledd Cymru – yn cefnogi Wythnos Fawr Arbed Ynni gydag wythnos o ddigwyddiadau gwych

Unwaith eto, mae Groundwork Gogledd Cymru yn ymuno gyda Chyngor ar Bopeth a sefydliadau eraill i drefnu digwyddiadau ar draws ein rhanbarth yn ystod Wythnos Fawr Arbed Ynni sy’n dechrau ddydd Llun, 20 Ionawr 2020 gyda’r nod o annog trigolion i ddarganfod sut i arbed arian ar eu biliau ynni.

Mae Groundwork Gogledd Cymru yn cefnogi’r ymgyrch ac yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau a gweithdai yn ystod yr wythnos er mwyn helpu pobl leol i arbed ynni ac arian, a lleihau effeithiau newid hinsawdd. Bydd ein hymgyrch yn codi ymwybyddiaeth am sut gall newidiadau syml fel newid cyflenwr neu gynllun ynni, hawlio gostyngiadau neu grantiau, a gwneud ein cartrefi yn fwy ynni-effeithlon wneud gwahaniaeth mawr iawn.

Mae Jo Woodward Uwch Gydlynydd Ynni Groudnwork Gogledd Cymru yn annog pawb i ‘Ddefnyddio eu pŵer i wneud gwahaniaeth mawr’

‘Yn dilyn llwyddiant ymgyrch y llynedd, pan aethon ni ar daith ar draws yr ardal gan gynnig cyngor a chanllawiau ar bob math o bynciau yn y gymuned, rydym yn falch iawn o gymryd rhan yn Wythnos Fawr Arbed Ynni 2020. Byddwn yn annog pawb i ‘Ddefnyddio eu pŵer i wneud gwahaniaeth mawr’ i’w helpu i gael y fargen orau, er mwyn sicrhau bod cadw’n gynnes ac iach yn eu cartrefi yn fwy fforddiadwy y gaeaf hwn.’

Bydd gwahanol ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos, gan ddechrau gyda lansiad ddydd Llun 20 Ionawr. Digwyddiad rhyngweithiol rhannu gwybodaeth fydd hwn ar gyfer partneriaid a gweithwyr rheng-flaen sy’n helpu sefydliadau’r 3ydd sector i helpu eu cleientiaid a’r bobl maen nhw’n eu cynorthwyo i arbed ynni ar filiau ynni. Daw’r wythnos i ben ddydd Gwener 24 Ionawr gyda digwyddiad ac arddangosfa “Cawl a Stiwiau Araf Maethlon”.

Cynhelir y digwyddiadau canlynol yn ystod yr wythnos;

Dydd Mawrth 21 Ionawr bydd digwyddiad galw heibio ar gyfer trigolion Plas Madoc yn y Ganolfan Cyfleoedd.

Dydd Mercher 22 Ionawr cynhelir digwyddiad ar gyfer teuluoedd Dechrau’n Deg ym Mharc Caia, bydd sesiwn galw heibio yn y prynhawn ar gyfer trigolion a thenantiaid lleol yn The Hub, Partneriaeth Parc Caia.

Dydd Iau  23 Ionawr byddwn yn cynnal sesiwn boreuol Dydd Iau Darbodus yn y Ganolfan Fenter,  Wrecsam. Mae Dydd Iau Darbodus wedi’i anelu at bobl ifanc 16 – 24 oed sy’n byw’n annibynnol ac sydd eisiau arbed arian. Mae’r gweithdy anffurfiol a chyfeillgar hwn yn helpu pobl ifanc i gymryd mwy o reolaeth dros eu harian, gwella eu hyder a dysgu sgiliau newydd! Gellir archebu lle drwy gysylltu â @GwkNorth Wales

Cynhelir digwyddiad agored yn y prynhawn yn y Ganolfan Fenter yng nghanol Wrecsam lle gall pobl alw heibio gyda’u biliau ynni i ofyn am gyngor.

Dydd Gwener 24 Ionawr byddwn yn dod â’r wythnos i ben gyda’n Digwyddiad Cawl a Stiwiau Maethlon.  Byddwn yn dangos sut i greu prydau poeth blasus sy’n rhad ac yn hawdd eu paratoi. Bydd cyfle i flasu’r prydau hefyd. Rhaid archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn a gynhelir yn y Lleoliad yn y Parc, Parc Gwledig Dyfroedd Alun .

I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Arbed Ynni ffoniwch Groundwork Gogledd Cymru ar 01978 757524 neu ewch i www.groundworknorthwales.org.uk