Dengys ymchwil y dylanwadir yn drwm ar les unigolion gan nodweddion ffisegol yn y mannau y maent yn byw, yn gweithio ac yn ymweld â hwy. Mae’n ffaith drist bod ansawdd yr amgylchedd lleol mewn nifer o’r cymunedau yr ydym yn eu cefnogi yng Nghymru yn wael. Mae lefel y safleoedd tir halogedig yn parhau’n uchel ac yn aml nid yw’n hawdd cael gafael ar yr arian I dalu costau’r gwaith gwella.

Gall Gofal Gwyrdd fynd i’r afael â hyn drwy ddarparu ystod o wasanaethau cynnal a chadw tir a gwella gofodau arwyr agored am bris cystadleuol I grwpiau cymunedol, landlordiaid cymdeithasol, ysgolion, elusennau a busnesau preifat.

Mae ein tîm Tirwedd yn cyflawni contractau ar sail fasnachol sydd nid yn unig yn adfer balchder yn yr ardal leol a gofodau gwyrdd, ond hefyd hunan-barch aelodau’r tîm sydd â’r cyfle i wella eu sgiliau a’u rhagolygon am gyflogaeth. Yn ogystal, mae’r incwm a gynhyrchir yn bwydo’n ôl i ddarpariaeth mentrau cymunedol lleol.

Greencare

Mae un contract o’r fath ar waith mewn cydweithrediad â’n partneriaid yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Wedi’i ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, rydym yn cyflwyno rhaglen gyflogadwyedd yn Nhredegar I astudio sgiliau awyr agored yng Nghoedwigoedd Sirhywi, safle tomen rwbel y cyn Waith Haearn.

Ynghyd â threfi ôl-ddiwydiannol eraill mae Tredegar nawr yn dioddef o gynnydd mewn tlodi a chyfradd uchel o allgau cymdeithasol.

Er mwyn cefnogi adfywiad ym MlaenauGwent, rydym yn gweithio gyda phobl dros 25 oed sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir ac sy’n economaidd anweithgar. Rydym yn darparu hyfforddiant a chymwysterau gan ganolbwyntio’n arbennig ar strimiwr, clirio ac adfer llwybrau, ymwybyddiaeth o’r amgylchedd ac adnabod coed. Mae’r canlyniadau eisoes i’w gweld yn amlwg yn y dirwedd yn ogystal â gwell storïau bywyd ein cyfranogwyr. Hyd yma, mae nifer o’r cyfranogwyr wedi symud I gyflogaeth llawn amser, i wirfoddoli a llawer mwy i ddysgu pellach. Mae’r holl gyfranogwyr wedi sôn am ganlyniadau cadarnhaol o ran sut y maent yn teimlo am eu dyfodol a hyder ac ysgogiad mewn

sicrhau cyfleoedd pellach a chyflogaeth.

“Fe wnes i fwynhau’n fawr fy mhrofiad gyda’r prosiectAstudio Sgiliau Awyr Agored. Gan fy mod wedi bod yn ddiwaith am gymaint o amser roedd y profiad yn un diddorol iawn. Dysgais lawer o sgiliau newydd a mwynhau cymysgu gyda phobl newydd. Roedd hi’n grêt mynd allan o’r tŷ a bod yn gorfforol egnïol yn y coedwigoedd. Hoffwn i nawr ddod o hyd i rywle arall lle gallaf barhau

i wirfoddoli”.

Colin Payne, Blaenau Gwent