Rhyddhau Groundwork yr Adolygiad Blynyddol diweddaraf

Cyhoeddi Arolwg Blynyddol 2019

Mae Groundwork Gogledd Cymru yn falch iawn o ryddhau ei Arolwg Blynyddol ac Adroddiad Effaith diweddaraf ar gyfer 2019. Fel elusen sy’n gweithio i weddnewid bywydau mewn cymunedau dan anfantais, mae’r arolwg yn dangos pa mor falch yw Groundwork o’r effaith mae’n ei chael bob blwyddyn.

Mae’r arolwg yn helpu i dynnu sylw at lwyddiannau’r elusen a sut mae ei gwaith ar lawr gwlad yn cefnogi’r ymdrech barhaus i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru fel cenedl.

Mae Groundwork yn ymwneud â channoedd o brosiectau bob blwyddyn, ac mae’r arolwg yn tynnu sylw at rai o’r rhain. Er enghraifft, y ffordd mae’n gweithio gyda Refurbs, un o’i sefydliadau partner, i fynd i’r afael â newid hinsawdd, drwy allgyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi. Hefyd, sut mae ei brosiectau Ynni yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd. Mae Toyota Drive yn brosiect sy’n dangos sut mae Groundwork yn tynnu’r gorau o bobl ifanc, a sut i adeiladu cymunedau cryfach a gwella ardal leol gyda rhaglenni fel Ein Gardd Gefn.

Y thema gyffredin sy’n cysylltu holl weithgareddau Groundwork yw ein hawydd i ymgysylltu pobl â’r amgylchedd naturiol, gan fod y rhan fwyaf o’r prosiectau yn ymwneud â’r awyr agored.

Gallwch wneud cais i Groundwork Gogledd Cymru am gopi o’r arolwg a gellir ei lawrlwytho isod. Bydd yn cael ei anfon at ein partneriaid a noddwyr allweddol dros yr wythnosau nesaf.


Darllenwch Adroddiad Effaith Blynyddol 2019 yma.