Rydym ni’n helpu pobl i leihau eu defnydd o adnoddau er mwyn iddyn nhw arbed arian – a dod yn rhan o’r mudiad sy’n brwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. Rydym ni’n gweithio gyda chwmnïau cyfleustodau, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i gefnogi rhaglenni sydd â’r nod o leihau gwastraff, arbed ynni a dŵr a lleihau nifer yr aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd.
Mae ein ‘Meddygon Gwyrdd’ yn rhoi help llaw i bobl yn y cartref i arbed arian ac adnoddau, ac rydym hefyd yn cynllunio prosiectau cymunedol sy’n hybu ailddefnyddio ac ailgylchu eitemau fel dodrefn a nwyddau gwynion, gan greu ‘economi gylchol’ ac arbed arian i aelwydydd.
Ein cryfderau
Canolbwyntio ar gostau: Rydym ni’n dangos i bobl bod gweithredu mewn modd gwyrdd yn dda i’r blaned ac i’r boced. Rydym ni’n canolbwyntio’n fanwl ar ffyrdd o helpu unigolion, aelwydydd a chymunedau i arbed arian a sicrhau’r incwm mwyaf posibl.
Cynghorwyr profiadol: Mae ein ‘Meddygon Gwyrdd’ a staff hyfforddedig eraill yn gwybod sut i sicrhau’r arbedion mwyaf a sut i annog pobl yn gynnil i newid eu hymddygiad.
Camau ymarferol: Nid dim ond cynnig cyngor ydym ni, rydym hefyd yn cymryd camau ymarferol, o osod mesurau arbed dŵr i helpu pobl i lenwi ffurflenni i wneud cais am grantiau neu newid darparwyr ynni.
Arbenigo ar atgyfeirio: Gwyddom y bydd pobl sy’n cael trafferth gyda’u biliau neu’n byw mewn cartrefi oer a llaith yn ymdopi ag amrywiaeth fawr o broblemau, o gyflyrau iechyd i unigedd. Mae ein staff wedi cael eu hyfforddi i sylwi ar broblemau fel hyn ac i atgyfeirio pobl at y gwasanaeth lleol iawn.