Rydym ni’n darparu gwasanaethau rheoli grantiau i lywodraeth genedlaethol a lleol, asiantaethau’r sector cyhoeddus, partneriaid corfforaethol ac ymddiriedolaethau elusennol.  

Mae ar sefydliadau sydd eisiau dosbarthu cyllid grant angen partner y maen nhw’n ymddiried ynddo sydd â systemau cadarn a hanes o lwyddo i sicrhau bod arian yn mynd i’r mannau lle mae ei angen mwyaf. Dyma’r hyn y gallwn ni ei gynnig i chi, gyda’n persbectif unigryw sy’n cyfuno gwybodaeth ar lawr gwlad am yr hyn sy’n gweithio gyda degawdau o brofiad o redeg rhaglenni cyllido i frandiau amlwg ac adrannau llywodraethol. Mae ein model ‘galluogi’, sydd wedi’i brofi droeon, yn golygu bod ein staff lleol ar lawr gwlad yn estyn allan i gymunedau, gan eu hannog i wneud ceisiadau ac arwain grwpiau trwy’r broses.

Gall ein tîm rheoli rhaglenni medrus eich cynorthwyo chi ac ymgeiswyr am eich cyllid trwy bob cam o’r broses grantiau:

Dylunio cynlluniau | Y broses ymgeisio | Y broses llunio rhestr fer | Hyfforddi ymgeiswyr llwyddiannus | Monitro a rheoli rhaglenni | Rhannu gwybodaeth | Gwerthuso | Cynigion dilynol

Mae Groundwork wedi’i restru ar fframwaith Gwasanaethau Masnachol y Goron ar gyfer Gwasanaethau Grantiau a Rhaglenni.

Ein cryfderau

  • Arbenigedd ar ddylunio cynlluniau: Rydym ni’n cyfuno ymgysylltu â rhanddeiliaid gyda dadansoddi data a mymryn o greadigrwydd er mwyn dylunio rhaglenni grantiau i’n cleientiaid a fydd yn cyflawni’r canlyniadau gofynnol, yn llenwi bylchau yn y dirwedd cyllido ehangach ac yn osgoi dyblygu neu fiwrocratiaeth ddiangen. 
  • Ymgysylltu: Mae ein gwybodaeth leol gyda thimau sy’n gweithio mewn cymunedau pob dydd yn golygu y gallwn dargedu grantiau’n well ac y gallwn estyn allan i hybu ymgysylltu. Rydym ni’n canolbwyntio ar gynorthwyo rhai sy’n gwneud cais am y tro cyntaf. 
  • Rheoli risg: Rydym yn creu prosiectau cymunedol ers degawdau felly rydym yn deall y peryglon cyffredin a gallwn sylwi pan fo prosiectau mewn perygl o fethu.
  • Galluogi ymgeiswyr newydd: Mae ein model ‘galluogi’ yn meithrin gallu grwpiau lleol i gael grantiau a chyflawni prosiectau’n llwyddiannus. Rydym ni’n cynnwys meithrin gallu’r sawl sy’n cael grantiau yn ein cymorth rheoli grantiau, gan geisio gwneud rhannu gwybodaeth a dysgu gan gymheiriaid yn bosibl.
  • Systemau cadarn: Rydym ni’n effeithlon o ran adnoddau yn ein gweithrediadau ac yn ddiogel gyda gweithdrefnau rheoli data cadarn. Rydym ni’n gweithredu systemau ar-lein ar gyfer ymgeisio am grantiau a’u monitro.

Mae ein cleientiaid yn y gorffennol a’r presennol yn cynnwys:

  • Tesco
  • HS2
  • Marks & Spencer
  • Greater London Authority