Rydym ni’n helpu pobl i ddod ynghyd i newid y mannau lle maen nhw’n byw er gwell ac i ddatblygu eu sgiliau, meithrin eu hyder a chyfarfod â ffrindiau newydd. Rydym ni’n rhoi i gymunedau yr offer i gymryd yr awenau eu hunain, ac yn cefnogi gweithredu ar y cyd i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol.
Rydym ni hefyd yn rhedeg cyfleusterau cymunedol fel gerddi, rhandiroedd a chanolfannau ac yn trefnu digwyddiadau a sesiynau chwarae a gwirfoddoli sy’n dod â grwpiau gwahanol ynghyd, yn meithrin cysylltiadau cymdeithasol ac yn hybu llesiant.
Ein cryfderau:
- Gweithredu cymdeithasol ymarferol: rydym ni’n helpu pobl i dorchi eu llewys a gwneud gwahaniaeth ymarferol i’w hamgylchiadau, gan greu ymdeimlad o gyflawni a chan adael effaith weladwy.
- Hanes o lwyddo: rydym ni’n ymgynghori â chymunedau, eu cynnwys a’u galluogi ers mwy na deng mlynedd ar hugain, ac rydym ni’n deall sut y gyrraedd y rheiny na ofynnir am eu barn yn aml.
- Galluogwyr cymunedol: rydym ni’n arbenigo mewn helpu pobl i drefnu eu hunain ac i gymryd y camau cyntaf at weithredu cymunedol ymroddedig.
- Cysylltu pobl â natur: rydym ni’n dod â phobl ynghyd trwy welliannau amgylcheddol lleol, ac rydym ni’n frwd ynghylch buddion natur a seilwaith gwyrdd i lesiant.
- Canlyniadau lluosog: rydym ni’n cynllunio mentrau sy’n gwella bywydau a chymdogaethau mewn nifer o ffyrdd: er enghraifft, gwella parc lleol ac ar yr un pryd lleihau arwahaniad a chynyddu gweithgarwch corfforol.