Rydym ni’n helpu grwpiau, sefydliadau, busnesau a thirfeddianwyr i greu a datblygu tirweddau a mannau gwyrdd sy’n rhoi hwb i lesiant, yn cynyddu cydnerthedd ac yn dod ag ychydig hapusrwydd a llawenydd i’r rheiny sy’n eu defnyddio.
Mae ein penseiri tirwedd profiadol yn deall bod mannau gwyrdd o ansawdd da yn hanfodol i’r ffordd mae ein cymdogaethau’n gweithredu. Mae ar bawb angen lleoedd sy’n eu hysbrydoli i ddysgu, chwarae a chyfarfod â ffrindiau ynddyn nhw, neu ddim ond mynd drwyddyn nhw. Lleoedd sy’n gartref i natur, y mae pobl yn eu mwynhau, ac sy’n helpu i ddenu buddsoddiad gan fusnesau.
Mae ein cryfderau’n cynnwys y canlynol:
- Hanes o lwyddo: rydym ni’n darparu gwasanaethau tirwedd proffesiynol ers mwy na deng mlynedd ar hugain.
- Gweithwyr proffesiynol profiadol: rydym ni’n cyflogi tîm o Benseiri Tirwedd Siartredig a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes tirweddau sy’n rhannu’r damcaniaethau proffesiynol diweddaraf ac arferion gorau.
- Ymgysylltu â’r gymuned: rydym ni’n estyn allan i ymgysylltu mewn modd creadigol â phob math o grwpiau defnyddwyr, preswylwyr, busnesau a sefydliadau er mwyn eu cynnwys a’u helpu i gyfleu eu hanghenion.
- Ymagweddau seiliedig ar natur: rydym ni’n frwd dros fuddion seilwaith gwyrdd wrth wella iechyd a brwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd, gan ddefnyddio technegau fel draenio trefol cynaliadwy a rheoli llifogydd yn naturiol.
- Gwerth cymdeithasol: rydym ni’n ceisio’r budd mwyaf posibl i’r cyhoedd o welliannau i dirweddau er mwyn rhoi hwb i iechyd a lles, darparu hyfforddiant a phrofiad gwaith, cefnogi datblygiad economaidd a mynd i’r afael â chynaliadwyedd amgylcheddol.
- Cynaliadwyedd: rydym wedi ymrwymo i sicrhau y caiff ein gwaith ei gyflawni’n unol â safonau amgylcheddol ac ansawdd cydnabyddedig gan gynnwys defnyddio cymaint ag sy’n bosibl o ddeunyddiau o ffynonellau cynaliadwy a deunyddiau wedi’u hailgylchu.