Ein cenhadaeth yw helpu busnesau i’w chael yn iawn o ran cydymffurfiaeth, cydnerthedd a chynaliadwyedd. Rydym ni’n helpu busnesau o bob lliw a llun i greu cynllun gweithredu er mwyn dod yn fwy diogel ac yn fwy cynaliadwy.
Trwy weithio gyda’n hymgynghorwyr busnes arbenigol, gallwn helpu’ch busnes i:
- Arbed arian
- Lleihau llygredd a gwastraff
- Aros yn gystadleuol
- Magu cydnerthedd
- Cydymffurfio â deddfwriaeth sy’n effeithio ar eich busnes
Mae ein tîm o ymgynghorwyr busnes yn darparu datrysiad llawn i anghenion eich sefydliad o ran cydymffurfiaeth, cydnerthedd a chynaliadwyedd.
Trwy ddewis Groundwork yn ymgynghorydd busnes cynaliadwy ichi, gallwch fod yn sicr y bydd eich busnes yn gweithredu’n ddiogel ac yn effeithlon ac yn ymateb i bwysau hinsawdd a newidiadau yn y gofynion cyfreithiol.
Ein harbenigwyr
Victoria Barlow | Amy Coulter | Greville Kelly |
Jacob Mason | Anna Martin | Oleh Smaczylo |