Mae Toyota Thrive yn cychwyn yn wych yn 2020

Mae Toyota Thrive, rhaglen gyflogadwyedd newydd sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth gyda’r elusen gofrestredig Groundwork Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Toyota Manufacturing UK a Chyngor Sir y Fflint, wedi cael dechrau gwych!

Mae’r rhaglen wedi derbyn 5 unigolyn rhwng 16 a 24 oed ar Gyfleoedd Lleoliad Gwaith am gyfanswm o 20 wythnos.  Bydd y lleoliadau yn cynnwys 8 wythnos o hyfforddiant mewnol gyda Groundwork Gogledd Cymru a bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ennill achrediad yn gysylltiedig â STEM mewn meysydd amrywiol fel arlwyo, gwasanaethau cwsmeriaid, adwerthu, iechyd a gofal cymdeithasol, gwaith coed, gweithgareddau cadwraeth/ awyr agored, TG a sgiliau cyfathrebu.

Ar ôl 8 wythnos o hyfforddiant mewnol, bydd cyfranogwyr yn symud i’w lleoliadau gwaith gyda chyflogwyr allanol sy’n addas ar gyfer eu sgiliau unigol.

Mae’r cyfranogwyr wedi dechrau ar y rhaglen gan ymweld â gwahanol safleoedd Groundwork Gogledd Cymru, gan gynnwys Refurbs yn y Fflint a Beicio i Bawb ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun.

Dywedodd Sharon Jones o Gymunedau am Waith a Chymunedau am Waith Mwy yn Sir y Fflint fod y prosiect yn enghraifft dda iawn o weithio mewn partneriaeth.

“Mae rhaglen Toyota Thrive yn dangos gwaith partneriaeth gwych rhwng Groundwork Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Toyota Manufacturing UK a Chyngor Sir y Fflint. Mae’n wych gweld bod rhai o’n cleientiaid wedi llwyddo i gael lle ar y rhaglen bwysig hon”.

Mae Lisa Jones, rheolwr prosiect Groundwork Gogledd Cymru, wrth ei bodd gyda’r ymateb i’r rhaglen.

“Roeddwn wrth fy modd gyda’r ymateb i’r rhaglen. Mae’n wych gweld bod pobl ifanc mor awyddus i gymryd rhan ac achub ar y cyfle i gael profiad gwaith a meithrin sgiliau”.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch â Lisa neu Teleri ar 01978 757 524 / lisa.jones@groundworknorthwales.org.uk / Teleri.jones@groundworknorthwales.org.uk