Toyota Thrive

Diolch i nawdd gan Ymddiriedolaeth Elusennol Toyota Manufacturing UK a Chyngor Sir y Fflint, mae Groundwork Gogledd Cymru yn cynnig prosiect cyflogadwyaeth newydd, sef Toyota Thrive.

Mae Toyota Thrive yn cynnig lleoliadau gwaith gyda thâl i unigolion 16-24 oed am hyd at 26 wythnos. Mae’r prosiect yn cynnwys 8 wythnos o hyfforddiant mewnol gyda Groundwork Gogledd Cymru, a gall y rhai sy’n cymryd rhan ennill achrediad STEM mewn meysydd amrywiol fel arlwyo, gwasanaeth cwsmeriaid, adwerthu, iechyd a gofal cymdeithasol, gwaith coed, cadwraeth/ gweithgareddau awyr agored, sgiliau TG a chyfathrebu.

Yn dilyn cyfnod cychwynnol o hyfforddiant mewnol 8 wythnos, bydd y cyfranogwyr yn symud i leoliadau gwaith gyda chyflogwyr allanol sy’n addas i’w sgiliau unigol.

Wrth sôn am y cynllun, dywedodd Lorna Crawshaw, Pennaeth Rhaglenni a Phartneriaethau Groundwork Gogledd Cymru:
“Mae’r tîm a finnau yn Groundwork Gogledd Cynru yn edrych ymlaen at y prosiect. Mae gallu gweithio’n agos gyda’r cyfranogwyr ar y rhaglen yn rhoi cyfle i’r Hyfforddwyr Cyflawni ddod i adnabod a deall yr unigolion, gan eu galluogi i roi mwy o sylw i brofiad a chanlyniadau cyfranogwyr”.

Dywedodd Jim Crosbie, Ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth Elusennol a Diprwy Reolwr Gyfarwyddwr Toyota Manufacturing UK, “Rydyn ni wrth ein bodd i weithio gyda Groundwork Gogledd Cymru a Chyngor Sir y Fflint i roi cymorth i bobl ifanc gael profiad gwaith real a pherthnasol a datblygu eu sgiliau ar draws amrediad eang o weithgareddau.”

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Lisa a Teleri ar 01978 757 524 / lisa.jones@groundworknorthwales.org.uk / Teleri.jones@groudnworknorthwales.org.uk