Byw a Gweithio’n Wyrddach
Diogelu adnoddau naturiol, annog pobl i newid ymddygiad a chynnal busnesau cynaliadwy
Mae’n realiti noeth bod heriau amgylcheddol byd-eang yn effeithio waethaf ac yn gyntaf ar y bobl a chymunedau hynny sydd â’r lleiaf. Mae hefyd yn wir y bydd mynd i’r afael â’r heriau hyn yn llwyddiannus yn ei gwneud yn ofynnol i bobl ym mhob man ddysgu byw’n wahanol. Rydym ni’n helpu pobl a sefydliadau i wneud dewisiadau a newidiadau sy’n sicrhau buddion ymarferol yn awr ac yn hau hadau dyfodol mwy cynaliadwy.
Mae meddwl yn wahanol am y ffordd rydym ni’n defnyddio adnoddau y mae pen draw iddyn nhw yn helpu pobl i fyw bywydau gwell, iachach a mwy cyfforddus, yn darparu cyfleoedd i bobl wirfoddoli a chydweithio yn eu cymunedau i gyflawni pethau, yn gwella cyfleusterau lleol ac yn creu swyddi.
Byw a gweithio’n wyrddach: Ein heffaith
Yn 2018 rydym wedi
- Atal 4.8 miliwn o gilogramau o allyriadau carbon deuocsid
- Cynorthwyo 65,000 o aelwydydd gyda chyngor ar effeithiolrwydd dŵr ac ynni
- Cynorthwyo 2,400 o fusnesau i fod yn fwy cynaliadwy
Arbenigwyr arbed ynni
Rydym ni’n cyflogi timau o Feddygon Gwyrdd ar draws y wlad sy’n fedrus o ran helpu pobl i ddeall sut i gwtogi ar eu biliau tanwydd a dŵr a sicrhau eu bod nhw’n cael yr holl gefnogaeth a chymorth mae arnyn nhw eu hangen. Rydym ni eisiau sicrhau bod gan bobl y wybodaeth a’r ysgogiad i fyw bywydau iachach a gwyrddach a chael y budd mwyaf o’r cynlluniau a gynigir gan y llywodraeth a chwmnïau cyfleustodau. Gan weithio gyda chynghorau, cymdeithasau tai a phartneriaid busnes, rydym ni’n canolbwyntio ar sicrhau bod y rhai sy’n fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau’n gallu ymdopi yn well.
Mae’r ymagwedd hon yn ymestyn i’r gweithle yn ogystal â’r cartref, ac mae ein hymgynghorwyr cynaliadwyedd arbenigol yn cynorthwyo miloedd o fusnesau a sefydliadau bob blwyddyn i leihau gwastraff, cwtogi ar filiau a chwarae rhan fwy gweithgar a chyfrifol yn y gymuned.
Mae ein gwaith yn amrywio o helpu plant i fod yn hyrwyddwyr ynni yn yr ystafell ddosbarth i weithio gyda grwpiau cymunedol i gynllunio a dylunio prosiectau ynni adnewyddadwy. Ein dull bob amser yw helpu pobl i ddeall y camau cadarnhaol, ymarferol y gallan nhw eu cymryd i edrych ar ôl yr amgylchedd ar stepen eu drws ac ar yr un pryd chwarae eu rhan yn y gwaith o ddiogelu natur ac osgoi effeithiau gwaethaf y newid yn yr hinsawdd ar bobl sy’n agored i niwed mewn rhannau eraill o’r byd ac ar genedlaethau’r dyfodol.