Strwythur a Llywodraethu Ffederasiynau
Ffederasiwn o elusennau yw Groundwork sy’n gweithio’n lleol ac yn genedlaethol i drawsnewid bywydau yng nghymunedau mwyaf difreintiedig y Deyrnas Unedig.
Rydym yn harneisio brwdfrydedd, sgiliau a phrofiad mwy na 1,200 o gyflogeion a 150 o ymddiriedolwyr gwirfoddol ar draws y Deyrnas Unedig i gyflenwi prosiectau, rhaglenni a gwasanaethau sy’n ymateb i anghenion cymunedau lleol ac yn ychwanegu gwerth at flaenoriaethau a chynlluniau ein partneriaid lleol.
Elusennau annibynnol yw ymddiriedolaethau Groundwork, sy’n gweithio o dan frand cyffredin i wireddu un strategaeth i’r ffederasiwn.
Dod o hyd i’ch Ymddiriedolaeth Groundwork leol
Mae Groundwork UK yn cefnogi gweithgareddau Ymddiriedolaethau Groundwork trwy gynnal rhaglenni, mentrau ac ymgyrchoedd sy’n creu adnoddau cenedlaethol ar gyfer gwaith cyflenwi lleol ac yn cefnogi gwelliannau o ran ansawdd ac effaith.
I gael gwybod mwy am Groundwork UK
Bwrdd Ffederasiwn Groundwork sy’n gyfrifol am weithgareddau Groundwork UK ac am ein strategaeth a’n rhaglenni i’r ffederasiwn cyfan. Caiff y rhan fwyaf o’i aelodau eu penodi o fyrddau Ymddiriedolaethau Groundwork. Caiff nifer o ymddiriedolwyr annibynnol, gan gynnwys ein Cadeirydd, eu cyfethol gan y bwrdd er mwyn ehangu ei gronfa sgiliau neu i’n galluogi i fanteisio ar arbenigedd neu rwydweithiau arbenigol.