Yng Nghymru rydym ni’n rheoli’r cynlluniau grant canlynol.

One Stop Carriers for Causes

Mae Groundwork yn gweithio gyda siopau One Stop i weinyddu grantiau’r cynllun Carriers for Causes, er mwyn ariannu achosion da o fewn dwy filltir i un o siopau One Stop.

Bydd y mathau o brosiectau a ariennir yn amrywiol iawn a bydd hyn yn talu’r costau uniongyrchol ar gyfer cyflawni’r prosiect. Gallai hyn gynnwys prynu casglyddion sbwriel a bagiau ar gyfer diwrnodau glanhau cymunedol neu blanhigion, rhawiau a ffyrc i blannu gardd gymunedol newydd, talu cost llogi bws mini ar gyfer trip diwrnod i grŵp cymunedol neu brynu’r deunyddiau mae eu hangen i baentio ystafell yn yr hosbis leol.

Darllen mwy am Carriers for Causes.


Cynlluniau grant eraill

I gael gwybod am gynlluniau grant mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ewch i’n prif dudalen grantiau.

Prif dudalen grantiau