Rydyn ni’n sefydliad sy’n dibynnu ar bŵer pobl. Codi arian i gefnogi ein prosiectau yw un o’r ffyrdd y gallwch ddangos eich cefnogaeth, newid bywydau a herio’ch hun. Mae pob punt a godwch yn gwneud gwahaniaeth hollbwysig er mwyn creu lleoedd gwell a bywydau gwell i bobl yn y cymunedau mae arnyn nhw ei angen mwyaf.
Mae llawer o ffyrdd gwahanol o godi arian at rywbeth rydych chi’n teimlo’n angerddol amdano. Gallwn eich helpu chi a’ch cymdogion i godi arian at brosiectau lleol neu gallwch gofrestru ar gyfer un o’n heriau codi arian cenedlaethol.
Beth bynnag rydych chi’n dewis ei wneud byddwn yn rhoi ichi’r cymorth mae arnoch ei angen ac yn dangos ichi’r gwahaniaeth mae’ch ymdrechion wedi’i wneud.
Codi arian yn y gwaith
Mae gwaith codi arian gan eich staff yn ffordd hwyliog o ddod â’ch timau ynghyd trwy nodau a chyflawniadau cyffredin. Mae gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau hefyd yn wych ar gyfer morâl ac yn meithrin ewyllys da gyda’ch cwsmeriaid a phobl yn yr ardal leol.
O fusnesau bach i sefydliadau mawr, mae gennym ni lawer o syniadau ynghylch sut y gallwch gael eich cydweithwyr i gymryd rhan a chefnogi ein gwaith.