Rydym ni’n gwybod erioed bod swydd foddhaus yn ffactor o bwys wrth helpu pobl i aros yn iach ac yn hapus a’u galluogi i roi rhywbeth yn ôl i’r gymdeithas. Gwyddom hefyd fod angen gwneud llawer mwy o waith i wneud cymunedau lleol yn lleoedd gwell i fyw ynddynt ac i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr fel tlodi tanwydd a’r newid yn yr hinsawdd.

Ni ddylai neb fod o dan anfantais oherwydd lle mae’n byw neu oherwydd ei gefndir. Rydym ni’n atal gwastraffu talent oherwydd diweithdra hirdymor neu ddiffyg cyfleoedd. Rydym wedi ymrwymo i weithio i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bobl ac i sicrhau cyfleoedd newydd yn y farchnad swyddi.

Gwella rhagolygon pobl: Ein heffaith

Yn 2018 rydym wedi

  • Cefnogi 400,000 o ddiwrnodau o weithgarwch gwirfoddol gan oedolion a phobl ifanc
  • Cynorthwyo 5,000 o bobl i ddechrau hyfforddiant, addysg neu gyflogaeth
  • Cynorthwyo 41,000 o bobl ifanc i ddysgu a chyflawni

Meithrin sgiliau a phrofiad

Mae ein timau arbenigol yn darparu amrywiaeth fawr o gymorth i bobl ifanc yn yr ysgol a’r tu allan, ac i geiswyr gwaith o bob oed sydd eisiau meithrin sgiliau newydd a mynd yn ôl i’r gwaith. Mae’r gwaith hwn yn amrywio o hyfforddi pobl ifanc sydd mewn perygl o dangyflawni yn yr ystafell ddosbarth, i dorri cyfraddau ail-droseddu trwy weithio gyda chyn-droseddwyr.

Rydym ni’n fedrus wrth baru dysgu, hyfforddiant a chymwysterau ffurfiol gyda phrosiectau a gweithgareddau ymarferol sy’n rhoi i bobl ymdeimlad o gyflawniad personol a  ar yr un pryd yn darparu buddion ymarferol i gymunedau lleol. Mae ein Timau Gwyrdd yn darparu dull diogel a strwythuredig i bobl ifanc ddysgu sgiliau ymarferol wrth weithio i wella amgylcheddau lleol neu reoli mannau agored. Erbyn hyn mae llawer ohonyn nhw’n gweithio o dan gontract i gynghorau, cymdeithasau tai a thirfeddianwyr preifat.

Rydym ni hefyd yn canolbwyntio ar sicrhau cyfleoedd newydd ar gyfer sgiliau a swyddi gwyrdd, boed trwy gefnogi mentrau cymdeithasol sy’n ymdrin â gwastraff ac ailgylchu neu drwy helpu cwmnïau mawr i recriwtio hyfforddeion a phrentisiaid. Rydym ni’n cyflawni amrywiaeth o gontractau i lywodraethau, awdurdodau lleol a chwmnïau preifat, ond â golwg bob amser ar sicrhau bod pobl yn cael y cymorth a’r oruchwyliaeth mae arnyn nhw eu hangen a bod yr hyfforddiant maen nhw’n ei gael a’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn cyfrannu at adeiladu economïau leol fwy cynaliadwy.