Y Deyrnas Unedig yw un o’r cenhedloedd cyfoethocaf yn y byd. Er hynny, mae llawer o bobl mewn llawer o gymunedau’n wynebu caledi sylweddol.

  • Mae gostwng gwariant cyhoeddus yn golygu bod yna fwy o anghydraddoldeb cymdeithasol a mwy o anghyfartaledd daearyddol wrth i’r gwasanaethau mae pobl yn dibynnu arnyn nhw gael eu torri.
  • Y gwasanaethau yn y gymdogaeth sy’n gwella ansawdd ein bywydau – o glybiau ieuenctid i barciau – sydd wedi dioddef gwaethaf o’r gostyngiadau mewn gwariant.
  • Wrth i’n heconomi a’n system lles newid, mae rhai pobl yn parhau i fod wedi’u hymyleiddio ac yn agored i niwed – yn methu â chael hyd i waith a diwallu eu hanghenion sylfaenol.
  • Mae effeithiau amgylcheddol – o lifogydd i donnau o wres i godiadau mewn prisiau ynni – yn cael effaith anghymesur ar y rheiny sydd â’r amddiffyniad lleiaf.

Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn bydd angen syniadau a dulliau gweithio newydd i helpu unigolion a chymunedau i ffynnu. Mae’ch rhoddion ariannol chi’n helpu i sicrhau bod ein prosiectau a’n gwasanaethau’n cyrraedd y bobl mae arnyn nhw eu hangen mwyaf a bod gennym ni’r adnoddau o hyd i arloesi mewn byd sy’n newid.