Rydym ni’n cyflawni amrywiaeth o dasgau o ran tirweddau caled a meddal – gan geisio sicrhau’r gwerth cymdeithasol mwyaf posibl o’r contractau yr ydym yn eu hennill.
Yn aml mae ein timau tirweddu’n darparu profiad gwaith i bobl ifanc, pobl ddi-waith a’r rheiny sy’n wynebu heriau penodol fel cyn-droseddwyr. Mae sefydliadau sy’n rheoli tir yn manteisio ar wasanaeth o ansawdd da a gwybod bod eu contract wedi dod â chanlyniadau cadarnhaol ychwanegol i unigolion a’r gymuned ehangach.
Rydym ni hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o gontractwyr tirweddau dethol sy’n bodloni ein safonau amgylcheddol.
Mae ein gwasanaethau’n cynnwys y canlynol:
- Plannu coed, gwrychoedd a phlanhigion
- Gosod tyweirch a phlannu hadau blodau gwyllt
- Rheoli llystyfiant a thorri glaswellt
- Adeiladu ffensys a chloddiau terfyn
- Creu a gwella llwybrau
- Tendro, goruchwylio a rheoli contractau
- Rheoli iechyd a diogelwch
- Cynnwys a rheoli gwirfoddolwyr