Mae angen newidiadau ar frys i’r ffordd yr ydym yn defnyddio a rheoli tir er mwyn inni ymateb yn llwyddiannus i heriau’r argyfwng hinsawdd, llygredd aer a cholli bioamrywiaeth. Rydym ni’n gweithio gyda thirfeddianwyr gan gynnwys cymdeithasau tai, datblygwyr preifat, cynghorau lleol ac eraill i arloesi mewn ymdrechion i wneud ein cymunedau’n fwy cydnerth a pharod at y dyfodol.
Mae hyn yn golygu cyflawni gwaith i ymaddasu i hinsawdd sy’n cynhesu’n gyflym, fel sicrhau bod amgylcheddau lleol yn gallu ymdopi’n well â llifogydd a gwres trefol. Ac mae’n golygu ymdrechion i leihau ein heffaith garbon trwy waith helaeth i blannu coed a chynllunio ar gyfer cymdogaethau lle mae’n haws cerdded o le i le.
Rydym ni’n arwain y ffordd i eraill ei dilyn gyda dyluniadau diogelu rhag newid hinsawdd sydd wedi ennill gwobrau, ac rydym ni’n cysylltu ein prosiectau tirwedd gyda rhaglenni gweithredu ehangach gan roi i bobl y wybodaeth a’r sgiliau i baratoi ar gyfer effeithiau lleol yr argyfwng hinsawdd.
Mae ein gwasanaethau’n cynnwys y canlynol:
- Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy
- Dulliau rheoli seiliedig ar ddalgylchoedd ac ymyriadau naturiol i reoli llifogydd
- Ymyriadau i wella ansawdd aer, er enghraifft sgriniau gwyrdd y tu allan i ysgolion neu ar hyd priffyrdd prysur
- Cynllunio ac adeiladu coridorau trafnidiaeth gwyrdd a llwybrau troed a llwybrau beicio
- Rheoli a datblygu coetiroedd