Rydym ni’n darparu cyngor a chymorth o ran cyflogaeth i filoedd o bobl pob blwyddyn. Mae ein gwaith yn amrywio o fentrau lleol bach sy’n gweithio gyda grwpiau targededig i raglenni mawr o gymorth o ran cyflogaeth.
Rydym ni’n rhoi i bobl wybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd o ansawdd da i’w helpu i lywio llwybr at swydd gynaliadwy a boddhaus neu fynd yn ôl i addysg neu hyfforddiant. Rydym ni’n helpu pobl i ganfod y math o swyddi a fyddai’n addas iddyn nhw ac yn rhoi cymorth iddyn nhw lwyddo mewn prosesau recriwtio. Rydym ni’n canolbwyntio ar gael pobl i mewn i’r swydd iawn, nid dim ond unrhyw swydd.
Ein dull
- Meithrin ysbrydoliaeth ac uchelgais
- Cynorthwyo â chydnerthedd a llesiant
- Sicrhau dilyniant cadarnhaol
Mae llawer o’n cynlluniau’n parhau i roi cymorth i bobl ar ôl iddyn nhw fynd i’r gweithle, er mwyn helpu i sicrhau canlyniad cadarnhaol iddyn nhw ac i’w cyflogwr.
Rydym ni wedi creu mentrau cymdeithasol a swyddi yn ein rhaglenni cymunedol a all ddarparu profiad gwaith i’r rheiny sydd heb hanes o gyflogaeth.
Mae llawer o’n cynlluniau’n parhau i roi cymorth i bobl ar ôl iddyn nhw fynd i’r gweithle, er mwyn helpu i sicrhau canlyniad cadarnhaol iddyn nhw ac i’w cyflogwr ac i gefnogi camu ymlaen mewn gyrfa yn y dyfodol.
Rydym ni’n creu mentrau cymdeithasol a swyddi yn ein rhaglenni cymunedol a all ddarparu profiad gwaith a helpu pobl i dorri allan o’r cylch ‘dim swydd – dim profiad – dim swydd’.