Rydym ni’n darparu cyrsiau byr, hyfforddeiaethau a chyfleoedd profiad gwaith sy’n darparu llwybr at gyflogaeth ac yn helpu i sicrhau bod gan bobl y sgiliau mae eu hangen i gyd-fynd â chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg yn y gweithlu.

Rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth â cholegau, canolfannau gwaith, cyflogwyr a sefydliadau fel cymdeithasau tai er mwyn sicrhau bod ein cyrsiau wedi’u teilwra i anghenon lleol. Rydym ni’n credu’n gryf mewn dysgu gydol oes ac nad yw byth yn rhy hwyr i ddechrau o’r newydd, felly rydym ni’n ceisio cynnwys pobl sydd yn aml yn meddwl nad peth iddyn nhw yw addysg.

Yn aml mae ein cyrsiau’n ymarferol eu natur, gan gydnabod awydd llawer o bobl i ddysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Yn aml mae dysgu’n cael ei gysylltu â chymorth ychwanegol gyda chyflogadwyedd a chyfeirio i’r rheiny sydd ag anghenion penodol o ran iechyd, tai neu amgylchiadau personol fel caethiwed i sylweddau neu ddyledion.

Mae ein harbenigeddau’n cynnwys y canlynol:

  • Cyflogadwyedd: hyrwyddo gwaith tîm a bod yn brydlon a chynorthwyo â sgiliau llunio CV a sgiliau o ran cyfweliadau. 
  • Dysgu ymgorfforedig: darparu sgiliau gweithredol a chymwysterau galwedigaethol trwy brofiad gwaith mewn lleoliadau cymunedol – fel ‘timau gwyrdd’ sy’n cyflawni prosiectau amgylcheddol ymarferol ochr yn ochr â chyflogwyr mawr. 
  • Canolbwyntio ar gyflogwyr: mae ein hymagwedd wedi’i seilio ar ‘ddechrau gyda’r swyddi’ a theilwra dysgu i helpu pobl i gystadlu am swyddi gwag sydd ar fin dod. 
  • Sgiliau gwyrdd: rydym ni’n helpu pobl i ddod o hyd i waith a fydd yn ein helpu i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol – o reoli mannau gwyrdd i ‘wellgylchu’ dodrefn. 
  • Dysgu i oedolion: Cyrsiau byr sy’n rhoi blas ar addysg fel gwaith coed, coginio, garddwriaeth a chelfyddydau creadigol, gan roi carreg gamu i bobl at hyfforddiant mwy ffurfiol.  
  • Datblygiad personol: meithrin hyder ac ysgogiad trwy wirfoddoli a gweithredu cymdeithasol