Mae yna rywbeth arbennig am ddysgu yn yr awyr agored. Rydym ni’n cael bod pobl ifanc – yn enwedig y rheiny sy’n cael trafferth mewn ystafell ddosbarth draddodiadol – yn ffynnu pan roddir tasgau ymarferol iddyn nhw mewn lleoliad yn yr awyr agored. Mae pawb yn cael budd o gysylltiadau gwell â natur, gan gynnwys athrawon! 

Rydym ni’n gweithio gydag ysgolion a cholegau i ddarparu i bobl ifanc y cyfleoedd hynny i ddysgu yn yr awyr agored sy’n eu hysbrydoli. Gan gysylltu’n agos â’r cwricwlwm, rydym ni’n darparu addysg a hyfforddiant amgylcheddol sy’n ysgogi’r synhwyrau, yn herio pobl ifanc i feddwl yn greadigol ac yn helpu i wella llesiant trwy gysylltiad â natur.

Mae modd i’n prosiectau gael eu darparu ar diroedd ysgolion, mewn parciau a mannau gwyrdd lleol neu yn ein canolfannau dysgu pwrpasol.

Canolfannau dysgu yn yr awyr agored

Mae Groundwork yn rheoli amrywiaeth o ganolfannau dysgu yn yr awyr agored y gall ysgolion ymweld â nhw a lle gall pobl ifanc gael profiad sy’n eu hysbrydoli. Mae rhai’n cynnig arosiadau preswyl llawn ac mae eraill yn ddelfrydol ar gyfer ymweliadau diwrnod i gael profiad o natur ac i ddysgu am faterion amgylcheddol.  

Cwricwlwm Amgen

Rydym ni’n darparu profiadau dysgu amgen i bobl ifanc sy’n cael trafferth i ymgysylltu ag addysg brif ffrwd, gan weithio gydag ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Rydym ni wedi gweld bod prosiectau amgylcheddol ymarferol yn ffordd arbennig o lwyddiannus o ailennyn diddordeb pobl ifanc sydd wedi colli hyder yn eu galluoedd a’r buddion y gall addysg eu darparu. Mae hyfforddiant o’r math hwn yn cynnwys llythrennedd a rhifedd ymgorfforedig a chyfarwyddyd i helpu i ganfod nodau pellach o ran hyfforddiant neu waith.

Ystafelloedd dosbarth awyr agored mewn ysgolion

Mae ar bob ysgol angen mynediad i fannau naturiol a all ddarparu lleoliad ar gyfer dysgu yn yr awyr agored. Mae ein penseiri tirwedd yn gweithio gydag ysgolion i ailgynllunio tiroedd ysgolion er mwyn hwyluso addysgu yn yr awyr agored, gan gynnwys helpu i greu rhandiroedd a pherllannau ysgolion, creu cynefinoedd i natur a mannau addysgu. Gallwn gynnwys cymuned gyfan yr ysgol yn y broses, gan ganiatáu i’r disgyblion gymryd rhan arweiniol yn y gwaith o wyrddio eu hysgol ac ar yr un pryd cynnwys rhieni a gwirfoddolwyr o fusnesau lleol.

Cynorthwyo ag ymweliadau ysgolion

Mewn llawer o ardaloedd gall ein gweithwyr addysgol profiadol gynorthwyo athrawon trwy gynllunio a rheoli ymweliadau oddi ar y safle – er enghraifft gan arwain sesiynau ysgol goedwig, teithiau i safleoedd o ddiddordeb amgylcheddol neu deithiau i ddysgu am y dreftadaeth ddiwydiannol leol.