Rydym ni’n helpu pobl i gydweithio i leihau gwastraff, i godi ymwybyddiaeth o’r angen i ailddefnyddio ac ailgylchu ac i arbed arian trwy allu cael cynhyrchion ail-law a chynhyrchion sydd wedi’u hailgylchu. 

O ymgyrchoedd cymdogaethol i ailwampio dodrefn, nod ein gwaith yw herio arfer ein cymdeithas o waredu pethau a gosod y sylfaen ar gyfer economi fwy cylchol. Rydym ni hefyd yn cysylltu ein mentrau gwastraff mwy â hyfforddiant a sgiliau mewn meysydd fel gwaith saer coed, gwaith trydanol, gwaith warws a gwasanaeth cwsmeriaid. 

Rydym ni’n helpu pobl i gydweithio i leihau gwastraff, i godi ymwybyddiaeth o’r angen i ailddefnyddio ac ailgylchu ac i arbed arian trwy allu cael cynhyrchion ail-law a chynhyrchion sydd wedi’u hailwampio a’u gwellgylchu. 

O greu ymgyrchoedd cymdogaethol i gefnogi mentrau cymdeithasol cynaliadwy, nod ein gwaith yw herio arfer ein cymdeithas o waredu pethau a gosod y sylfaen ar gyfer economi fwy cylchol. Rydym ni hefyd yn defnyddio ein mentrau gwastraff mwy i helpu gwirfoddolwyr a phobl sy’n chwilio am waith i gael hyfforddiant a sgiliau mewn meysydd fel gwaith saer coed, gwaith trydanol, gwaith warws a gwasanaeth cwsmeriaid.

Mae ein gwasanaethau’n cynnwys y canlynol:

  • Sesiynau glanhau cymunedol: gweithredu cymdeithasol i ddod â phobl ynghyd a mynd i’r afael â phla sbwriel a mannau hyll lleol
  • Addysg amgylcheddol: addysgu plant am wastraff ac ailgylchu mewn ysgolion, gyda chysylltiadau â’r cwricwlwm.
  • Ymgyrchoedd lleol: annog pobl i ailgylchu, mynd i’r afael â llygredd plastigau neu leihau gwastraff bwyd, trwy ddigwyddiadau a chystadlaethau.
  • Canolfannau ailwampio: canolfannau lle rydym ni’n mynd ag eitemau o’r llif gwastraff ac yn eu hadnewyddu i’w gwerthu am bris isel, er budd teuluoedd ag incwm isel.