Mae angen i fusnesau feddwl y tu hwnt i werth i’r rhanddeiliaid a darparu gwerth cymdeithasol hefyd, yn enwedig os ydyn nhw’n gwneud cais am gontractau sector cyhoeddus. Mae dinasyddion corfforaethol da yn sicrhau bod eu gwasanaethau o fudd i’r cymunedau lleol maen nhw’n gweithio ynddynt.

Diolch i’r Ddeddf Gwerth Cymdeithasol, mae’n rhaid i’r rheiny sy’n comisiynu gwasanaethau cyhoeddus ystyried sut y gallan nhw hefyd sicrhau buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach. Rydym ni wedi bod yn darparu’r buddion hynny ers mwy na deng mlynedd ar hugain a gallwn feddwl yn greadigol ynghylch sut i wreiddio gwerth cymdeithasol yn eich gwasanaethau. Gallwn eich helpu i sicrhau contractau sector cyhoeddus trwy weithio gyda ni i sicrhau creu gwerth cymdeithasol ac etifeddiaeth gymunedol gadarnhaol. 

Rydym ni wedi gweithio gyda chwmnïau fel Balfour Beatty, Amey, Keepmoat a llawer o rai eraill i helpu i ddarparu gwerth cymdeithasol.

Mae gwerth cymdeithasol yn golygu…

  • cynllunio mentrau sy’n ei gwneud yn bosibl recriwtio pobl leol, gan gynnwys cynlluniau hyfforddiant a phrofiad gwaith
  • ymgysylltu â’r gymuned a grwpiau defnyddwyr i wneud y defnydd gorau o ddatblygiadau newydd arfaethedig ac asedau
  • sicrhau’r buddion amgylcheddol mwyaf posibl trwy ddatblygu seilwaith gwyrdd

Gall partneru gyda Groundwork eich gwneud yn fwy cystadleuol mewn tendrau a’ch helpu i brofi gwerth ychwanegol eich gwasanaethau mewn cymunedau lleol.