Rydym ni’n helpu pobl i weithredu gyda’i gilydd i wella cymdogaethau ac i gynorthwyo eraill sydd mewn angen. Drwy wirfoddoli rheolaidd a digwyddiadau gweithredu cymdeithasol unigol, rydym ni’n harneisio sgiliau a brwdfrydedd pobl o bob oed a chefndir i chwarae rhan gadarnhaol yn eu cymuned ac i weithredu ar yr amgylchedd.

Pobl sy’n byw mewn ardal sy’n gwybod y ffordd orau i’w gwella. Ac mae toreth o frwdfrydedd ac egni mewn cymunedau lleol y gellir ei harneisio i fynd i’r afael â phroblemau mawr fel y newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth a llygredd aer.

Rydym ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol, sefydliadau eraill yn y trydydd sector a busnesau i greu cyfleoedd i wirfoddolwyr wella cyflwr cymdeithasol ac amgylcheddol eu hardal – o gydweithio i ddiogelu tirweddau lleol hoff i weithredu fel wardeiniaid llifogydd gan gadw pobl fwy bregus yn ddiogel rhag niwed.

Rydym ni’n credu y dylai mwy o bobl werthfawrogi’r rhan mae gwirfoddolwyr ymroddedig yn ei chwarae wrth gadw ein cymunedau yn ddiogel, yn iach ac yn gynaliadwy. Dyna pam ein bod yn dathlu eu gwaith pob blwyddyn gyda Gwobrau Cymunedol Groundwork.

Mae ein gwaith yn cynnwys:

  • Gweithredu ymarferol: rydym ni’n cefnogi diwrnodau gweithredu cymdeithasol unigol a rhaglenni tymor hirach sy’n cynnwys timau o wirfoddolwyr ac sy’n cyflawni canlyniadau gweladwy, gan hybu balchder ac ymdeimlad o gyflawniad.
  • Prosiectau dan arweiniad pobl ifanc: rydym ni’n galluogi pobl ifanc i gymryd yr awenau wrth wneud gwahaniaeth yn eu cymuned ac i ddatblygu’n arweinwyr amgylcheddol y dyfodol.
  • Timau cefnogol: rydym ni’n helpu grwpiau o wirfoddolwyr i weithio gyda’i gilydd yn rheolaidd ar fentrau fel gwaith garddio a chadwraethol cymunedol. Maen nhw’n datblygu sgiliau newydd ac yn cael budd o’r rhyngweithio cymdeithasol, gan frwydro yn erbyn unigedd.
  • Broceriaeth gwirfoddolwyr: rydym ni’n rheoli rhaglenni ar raddfa fawr i baru pobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth gyda sefydliadau mae arnyn nhw angen eu sgiliau ac yn arbenigo mewn helpu gwirfoddolwyr o fusnesau i chwarae eu rhan hefyd.