Mae ar bobl ifanc sydd wedi colli ffordd angen cymorth pwrpasol i’w helpu i weddnewid eu sefyllfa. Dyma rywbeth y gall ein hyfforddwyr ei ddarparu gan weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, cadwyni academïau ac awdurdodau lleol. 

Gall plant a phobl ifanc sy’n cael trafferth yn yr ysgol neu sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant gael budd o gymorth un i un wedi’i deilwra. Mae ein hyfforddwyr profiadol yn helpu pobl ifanc i fynd i’r afael â rhwystrau sy’n eu hatal rhag gwneud y mwyaf o’u haddysg, yn canfod nodau personol neu alwedigaethol ac yn eu harwain tuag at gyfleoedd newydd.

Mae ein hyfforddwyr yn helpu pobl ifanc i:

  • ganfod a disgrifio eu cryfderau a’u nodau mewn bywyd
  • rhannu’r nodau hyn yn gyfres o gamau realistig, cyflawnadwy, gan greu cynllun gweithredu
  • meithrin eu cydnerthedd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ganolbwyntio ar eu nodau ac y gallan nhw ymdopi ag amgylchiadau personol heriol.

Mae modd teilwra ein rhaglenni hyfforddiant a mentora i grwpiau penodol, er enghraifft pobl sy’n gadael gofal neu sydd mewn perygl o ymwneud â gangiau. Yn aml cânt eu harwain gan weithwyr ieuenctid sydd â phrofiad byw o’r problemau mae’r bobl ifanc maen nhw’n eu cynorthwyo yn eu hwynebu, ac a all drosglwyddo gwybodaeth ac anogaeth i bobl ifanc sydd ar groesffordd yn eu bywydau. 

Mae rhai rhaglenni wedi’u cynllunio i gael eu darparu gyda chymorth gwirfoddolwyr. Dyma un ffordd yr ydym ni’n helpu busnesau i roi yn ôl i’w cymuned leol a gall y berthynas fod yn fodd i ysbrydoli’r person ifanc a’r mentor.