Rydym ni’n helpu i greu mannau iachach a gwyrddach i fyw, yn cynnal gweithgareddau cymunedol sy’n hybu byw mewn ffordd iachach ac yn cynorthwyo pobl trwy wirfoddoli ymarferol i wella eu lles ac i reoli cyflyrau iechyd. 

Mae iechyd da yn fwy na mater o gamau gweithredu unigol – mae hefyd yn fater o newid ein hamgylcheddau lleol i fod yn wyrddach, yn haws cerdded ynddyn nhw ac yn llai llygredig. Rydym ni hefyd yn gwybod bod rhai pobl heb y cysylltiadau cymdeithasol a’r adnoddau ariannol mae eu hangen i wneud dewisiadau iachach. Rydym ni’n cydnabod yr heriau hyn trwy weithio i greu’r amodau mae eu hangen i ni i gyd fod yn iach a hefyd galluogi’r rheiny sydd â heriau penodol i gymryd eu camau cadarnhaol eu hunain tuag at les.

Mae gan ymyriadau syml a chost effeithiol yn y gymuned y potensial i newid bywydau ac arbed biliynau o bunnoedd i’r GIG pob blwyddyn. 

Rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth gyda meddygon teulu, Grwpiau Comisiynu Clinigol, elusennau a gweithwyr proffesiynol iechyd a lles eraill i greu mentrau, gan gynnwys rhai ar ‘bresgripsiwn cymdeithasol’. Mae ein gwasanaethau’n ‘creu iechyd’ trwy helpu pobl i gynyddu eu cysylltiad â natur a meithrin eu hyder, rheolaeth a chysylltiadau.

Mae ein gwaith yn cynnwys:

  • Lleihau arwahaniad a hybu lles: rydym ni’n dod â phobl ynghyd ar gyfer gweithgareddau grŵp mewn lleoliadau cymunedol, gan gynnwys mentrau wedi’u targedu at ddynion arwahanedig, mamau ifanc a phobl hŷn.
  • Creu cymdogaethau iachach: rydym ni’n cynnwys pobl yn y gwaith o wella eu parciau a mannau gwyrdd lleol, creu llwybrau ar gyfer cerdded a beicio a defnyddio seilwaith gwyrdd i fynd i’r afael â llygredd aer.
  • Hybu gweithgarwch corfforol: rydym ni’n annog pobl i fod yn fwy egnïol trwy gymryd rhan mewn gwaith cadwraethol ymarferol gwirfoddol, ac rydym ni’n defnyddio chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn llawer o’n rhaglenni ieuenctid.
  • Gwneud cartrefi’n gynhesach ac yn iachach: rydym ni’n gosod mesurau effeithlonrwydd ynni, yn cynghori ar arbed arian ar filiau cyfleustodau, yn chwilio am leithder a phroblemau eraill ac yn atgyfeirio pobl agored i niwed at asiantaethau arbenigol.
  • Galluogi bwyta’n iachach: rydym ni’n rhoi cyfle i bobl ddysgu am fwyd a thyfu eu bwyd eu hunain mewn lleoliad cymdeithasgar, yn arddangos coginio iachach ac yn ehangu dewisiadau pobl o ran bwyd a choginio.
  • Darparu cyngor un i un: rydym ni’n gweithio gyda phobl sy’n rheoli cyflyrau hirdymor neu sy’n ymdopi â phroblemau fel camddefnyddio sylweddau trwy ddarparu cyngor wedi’i deilwra a chymorth arbenigol wrth iddyn nhw ddod o hyd i lwybrau newydd at hyfforddiant, gwirfoddoli neu gyflogaeth.