Rydym ni wedi datblygu dulliau wedi’u teilwra o weithio gyda grwpiau sy’n wynebu heriau penodol fel pobl â hanes o droseddu, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, pobl ag anableddau a phobl sy’n gadael gofal.

Rydym ni’n defnyddio technegau fel cymorthdaliadau ar gyfer cyflogau sy’n denu cyflogwyr cefnogol, yn darparu profiad gwaith a swyddi dros dro er mwyn goresgyn diffyg hanes o gyflogaeth ac yn gweithio’n agos â phartneriaid i fynd i’r afael â phroblemau cysylltiedig fel camddefnyddio sylweddau, digartrefedd a rhwystrau iaith.

Rydym ni’n cynnig i gyflogwyr gymorth gyda phrosesau recriwtio ac ymsefydlu er mwyn sicrhau bod y pontio i waith yn ddidrafferth ac yn darparu rhwyd ddiogelwch rhag ofn i broblemau godi.