Mae pobl yn ganolog i fusnesau ac yn helpu i ysgogi perfformiad busnesau.
I’ch cynorthwyo i ddatblygu’ch gweithlu, rydym ni’n cynnig ystod gynhwysfawr o gyrsiau hyfforddi achrededig. Mae grymuso’ch pobl trwy hyfforddiant perthnasol o ansawdd da yn ddull profedig o greu diwylliant diogel a chynaliadwy.
Gellir darparu hyfforddiant yn fewnol neu ar un o’n safleoedd ni, a gellir ei deilwra i’ch anghenion.
Mae ein cyrsiau hyfforddi’n cynnwys:
- Ymwybyddiaeth amgylcheddol
- Rheoli cynaliadwyedd
- Llythrennedd carbon
- Rheoli gwastraff
- Parodrwydd ar gyfer gollyngiadau ac ymateb iddynt
- Hyfforddiant ar arweinyddiaeth ym meysydd rheoli amgylcheddol, ansawdd, ac iechyd a diogelwch
- Iechyd a Diogelwch
- Codi a chario
- Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
- Asesu Risg
- Cymorth cyntaf yn y gwaith
- Diogelwch tân i wardeniaid tân
- Hyfforddiant i archwilwyr mewnol ISO
Roeddwn ni’n meddwl bod yr hyfforddiant wedi cael ei ddarparu’n dda iawn. Rhoddodd ysgogiad imi fod eisiau gwneud newidiadau personol ac ysbrydoli eraill yn fy ngweithle i wneud yr un peth.
– unigolyn a gafodd hyfforddiant Llythrennedd Carbon