Gall ein tirlunwyr helpu’ch sefydliad i droi syniadau a chynigion yn fannau deniadol â dyluniad da sy’n diwallu anghenion pobl.
Rydym ni’n canolbwyntio’n bendant ar elfen ddynol y broses dylunio, gan hyrwyddo ymagwedd a arweinir gan ddefnyddwyr. Perthnasoedd sydd wrth wraidd dylunio llwyddiannus, ac mae ein harbenigwyr ar ymgysylltu cymunedol yn deall sut i gynnwys pobl yn y gwaith o greu mannau sy’n gweithio.
Rydym ni’n arbenigwyr ar ddeall sut mae mannau cyhoeddus yn cael eu defnyddio mewn cymdogaethau a’r dadleuon dros ac yn erbyn gwahanol fathau o ddyluniad, plannu a deunyddiau mewn lleoliadau cymunedol. Mae ein dyluniadau’n cyfuno anghenion pobl a bywyd gwyllt ac rydym ni bob amser yn ailddefnyddio ac yn ailgylchu lle bo modd.
Mae ein gwaith yn amrywio o erddi cymunedol bach i gynlluniau mawr ar dir y cyhoedd mewn canolfannau trefol.
Mae ein gwasanaethau’n cynnwys y canlynol:
- Astudiaethau dichonoldeb
- Dadansoddiadau ac arolygon o safleoedd
- Llunio uwchgynlluniau
- Cymeradwyaeth cynllunio / statudol
- O’r cysyniad i’r brasddyluniad
- Dyluniad manwl a dogfennau contract
- Amcangyfrif costau a chyngor ar gyllid
- Tendro Gwerth Gorau
- Rheoli prosiectau
- Strategaethau cynnal a chadw tirweddau
- Gwasanaethau GIS
- Ymgynghori â chymunedau
- Datblygu partneriaethau a cheisiadau am gyllid, gan gynnwys o Gronfa Dreftadaeth y Loteri