Rydym ni’n gweithio gyda grwpiau llawr gwlad mewn cymunedau i’w helpu i wneud gwelliannau sy’n para i’r mannau lle maen nhw’n byw ac i’w galluogi i fod â llais gweithredol yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.

Rydym ni’n helpu awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, datblygwyr a chyrff iechyd i gynllunio a darparu gwasanaethau gyda chyfranogiad gweithredol gan bobl leol. Rydym ni’n arbenigwyr ar ymgysylltu â phobl na chaiff eu lleisiau eu clywed yn aml ac ar ddefnyddio prosiectau ymarferol i wella iechyd a lles, hybu integreiddio a chynyddu nifer y bobl sy’n manteisio ar wasanaethau.

Rydym ni’n gwneud ymrwymiad hirdymor i’r mannau sy’n cael eu targedu, gan chwarae rhan weithredol yn y gwaith o helpu’r cymdogaethau hynny i oresgyn heriau a dod yn fwy cydnerth.

Mae gan bob cymuned ei chryfderau ei hun i adeiladu arnyn nhw. Rydym ni’n gweithio gyda phartneriaid lleol sefydledig, cyrff cymunedol a sefydliadau angori er mwyn sicrhau bod ein gweithgareddau’n cydategu’r gwaith da sy’n cael ei wneud eisoes. 

Mae ein gwaith yn cynnwys:

  • Ymgynghoriadau: rydym ni’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu a dadansoddi gwybodaeth, o arolygon o ddrws i ddrws i ddigwyddiadau cymunedol mawr, gan ddefnyddio ein staff arbenigol a rhwydweithiau lleol i gyrraedd pob rhan o’r gymuned.
  • Ymgysylltu seiliedig ar leoedd: rydym ni’n cynnig ffyrdd ymarferol o helpu pobl i wella eu cymdogaethau, o sesiynau glanhau, ymgyrchoedd a digwyddiadau cymunedol i ddatblygu gerddi cymunedol, gwella meysydd chwarae neu gynnal gweithgareddau i bobl ifanc.
  • Datblygu asedau: rydym ni’n ychwanegu gwerth i hybiau cymunedol sy’n bodoli eisoes, gan ddod â gwasanaethau a phartneriaid ynghyd er mwyn cael mwy o effaith a chreu canolfan lle gall gwasanaethau cymdogaethol a busnesau cymunedol ffynnu.
  • Galluogi a meithrin gallu: gallwn helpu grwpiau o breswylwyr i gael y sgiliau a’r hyder i ddod yn grŵp sefydledig, cynllunio eu gweithgareddau a gwneud ceisiadau am gyllid.
  • Meithrin cydlyniant: rydym ni’n cynllunio mentrau sy’n helpu pobl o gefndiroedd amrywiol i gydweithio tuag at nod cyffredin, neu bontio’r bwlch rhwng cenedlaethau.
  • Creadigrwydd, treftadaeth ac angerdd: o brosiectau hanes llafar i gelfyddyd gymunedol i gynhyrchu cerddoriaeth, rydym ni’n defnyddio amrywiaeth o dechnegau i helpu pobl i ddangos balchder yn y man lle maen nhw’n byw ac i ysbrydoli gweithredu ar y cyd.