Sefydlwyd Groundwork Gogledd Cymru yn 1991, ac mae’n gwasanaethu chwe sir Gogledd Cymru o ganolfannau yn Wrecsam a Bangor.

Fel elusen gofrestredig a chwmni cyfyngedig drwy warant, rydym yn un o’r Ymddiriedolaethau annibynnol sy’n rhan o Ffederasiwn Groundwork.

Fel sefydliad rydym wedi ymrwymo i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol cymunedau lleol. Rydym yn cofleidio dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan sicrhau bod ein gwaith bob amser yn canolbwyntio ar y nodau llesiant.

Mae strwythur ein sefydliad yn adlewyrchu’r ymrwymiad hwn. Rydym yn cael ein llywodraethu gan fwrdd sy’n cynnwys cynrychiolwyr yr awdurdodau lleol, y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector ar draws Gogledd Cymru.

Aelodau Bwrdd Ymddiriedolwyr Groundwork Gogledd Cymru yw:

  • Nigel Reader CBE (Cadeirydd)
  • Malcolm Booker (Trysorydd)
  • Robert Williams (Ysgrifennydd y Cwmni)
  • Sarah Overson
  • Claire Powell
  • Helen Wright
  • Dr. Stan Moore
  • Rod Taylor
  • Nicola Said

Mae ein gweithgareddau o ddydd i ddydd yn cael eu goruchwylio gan Karen Balmer CPFA (Prif Weithredwr), Lorna Crawshaw (Pennaeth Rhaglenni a Phartneriaethau), a Christine Bowyer (Pennaeth Adnoddau).

Elusen Gofrestredig Rhif:- 1004132

Cwmni Cofrestredig Rhif:- 2614714