Pam mae angen ein gwaith

Y Deyrnas Unedig yw un o’r cenhedloedd cyfoethocaf yn y byd. Er hynny, mae llawer o bobl mewn llawer o gymunedau’n wynebu caledi sylweddol.

  • Mae gostwng gwariant cyhoeddus yn barhaus yn golygu bod yna berygl mwy o anghydraddoldeb cymdeithasol a mwy o anghyfartaledd daearyddol wrth i’r gwasanaethau mae pobl yn dibynnu arnyn nhw gael eu torri.
    Y gwasanaethau yn y gymdogaeth sy’n gwella ansawdd ein bywydau – o glybiau ieuenctid i barciau – fydd yn dioddef gwaethaf o’r gostyngiadau mewn gwariant.
  • Wrth i’n heconomi a’n system lles newid, bydd rhai pobl mewn rhai rhannau o’r wlad yn parhau i fod wedi’u hymyleiddio ac yn agored i niwed.
  • Bydd effeithiau amgylcheddol – o lifogydd i godiadau mewn prisiau ynni – yn cael effaith anghymesur ar y rheiny sydd â’r amddiffyniad lleiaf.

Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn bydd angen syniadau a dulliau gweithio newydd, gan ymgysylltu â chymunedau a busnesau, yn ogystal â ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Sefydlwyd Groundwork ar adeg pan roedd yna heriau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd, fel arbrawf i helpu cymunedau i ymdopi â newid ac i gydweithio i wella eu bywydau a’u cymdogaethau. Ni fu erioed mwy o angen am y profiad hwnnw a’r ysbryd mentergarwch ac arloesedd hwnnw.

Yr hyn sy’n ein sbarduno yw cydnabod y ffaith bod gan bob cymuned – waeth pa mor ddifreintiedig – gronfeydd mawr o falchder yn yr ardal leol a phobl â’r brwdfrydedd a’r syniadau i wella eu hamgylchiadau a’u hamgylchoedd.

Mae Groundwork yn bodoli i harneisio’r balchder hwnnw a datgloi’r brwdfrydedd hwnnw trwy wasanaethau, prosiectau a rhaglenni sy’n newid bywydau pobl heddiw ond sydd hefyd yn gwneud ein cymunedau’n fwy gwydn at y dyfodol.