Rydym yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau lleol, cyrff cyhoeddus, cwmnïau preifat a sefydliadau sector cyhoeddus eraill i gefnogi cymunedau mewn angen.
Mae gennym dros bum mlynedd ar hugain o brofiad o gyflenwi prosiectau wedi’u teilwra sy’n defnyddio’r amgylchedd fel catalydd i adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy. Rydym yn canolbwyntio ein gwaith ar gymunedau lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf. Y llynedd yn unig fe wnaethom gyflenwi dros 85 o brosiectau ar draws Gogledd Cymru, gan helpu i wella ansawdd bywydau pobl a’r lleoedd lle maen nhw’n byw, gweithio a chwarae.
Rydym yn trefnu ein gwaith yn ôl Fframwaith llesiant Llywodraeth Cymru; mae ein rhaglenni yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.