Rydym ni’n cynnig amrywiaeth o gynlluniau achredu ac aelodaeth sydd wedi’u cynllunio ar gyfer busnesau sydd eisiau datblygu a dangos eu harferion gorau o ran cynaliadwyedd.
Caiff pob achrediad ei ddarparu gan un o ymddiriedolaethau Groundwork ond maent ar gael ledled y wlad. Cewch fwy o wybodaeth am bob achrediad a pha un sy’n gweddu orau i’ch busnes drwy glicio ar y dolenni isod.
Sustainable Business Initiative
Mae’r fenter hon yn cynnig fframwaith clir i sefydliadau ddeall yn well a gwella eu perfformiad o ran cynaliadwyedd mewn pedwar maes: iechyd a diogelwch, effaith gymdeithasol, ansawdd a pherfformiad amgylcheddol.
Darperir gan Groundwork Greater Manchester
Carbon Charter
Mae’r siarter hon yn offeryn effeithiol i fusnesau bach a chanolig ddeall yn well eu hopsiynau o ran lleihau allyriadau carbon.
Y Ddraig Werdd
Caiff safon amgylcheddol y Ddraig Werdd ei rhoi i fusnesau sy’n cymryd camau i ddeall, monitro a rheoli eu heffeithiau amgylcheddol.
Green Business Membership
Mae’r cynllun Green Business Membership yn ffordd ddelfrydol o gadw i fyny gyda’r digwyddiadau diweddaraf yn y sector cynaliadwyedd. Fel aelod, cewch fynediad i seminarau, webinarau a digwyddiadau ar thema cynaliadwyedd, ynghyd â mynediad i’n llinell gymorth dros y ffôn.