Furniture RevivalMae Menter Werdd wedi ymrwymo i helpu pobl i ryddhau eu potensial drwy ystod o fentrau busnes seiliedig ar waith a all gael effaith nawr ac yn y dyfodol.

Nid oes gwerth i dalent a wastraffir. Mae llawer o dalentau cudd ynghwsg yn ein cymunedau mwyaf heriol yng Nghymru oherwydd tlodi dyhead a diweithdra hirdymor. Caiff hyn effaith negyddol gref ar iechyd, cyfoeth a lles unigolion a’r lleoedd y maent yn byw ynddynt.

Nod ein gweithgareddau Menter Werdd yw torri’r cylch amddifadedd hwn. Yn ganolog i hyn y mae ein cred profedig bod gwaith boddhaus yn factor fawr mewn helpu pobl i barhau’n gadarnhaol a’u galluogi i adeiladu economi fwy cynaliadwy, gan ddechrau’n fach yn yr ardal leol a chyfrannu at y darlun mwy o Gymru fwy ffyniannus.

Mae Menter Werdd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid strategol i ddarparu ystod o gyfleoedd seiliedig ar waith wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion cyflogaeth penodol y rheini o gefndiroedd cymdeithasol ac economaidd difreintiedig ledled Cymru.

Un stori lwyddiant ymhlith nifer yw Adnewyddu Dodrefn, menter gymdeithasol sy’n eiddo i Groundwork Cymru. Mae’r fenter, a sefydlwyd ym 1990, yn llwyddo i leihau gwastraff o dirlenwi ac ar yr un pryd yn darparu dodrefn ail-law fforddiadwy i unigolion sydd ar incwm isel.

Mae gan y cwmni uchelgais i dyfu ac i leihau tlodi yn ei ardal weithredol. Mae’n cefnogi’r gymuned leol yng Nghwm Rhymni Uchaf drwy ddarparu hyb gwirfoddoli er mwn hwyluso cyfleoedd hyfforddiant a gwella cyflogadwyedd a sgiliau.

Mae Andrew Davies yn enghraifft o’r effaith gymdeithasol gadarnhaol a gwell ansawdd bywyd a roddir gan yr hyb. O fod yn unigolyn oedd â hunan-barch isel a chyfleoedd bywyd prin, mae wedi adfywio i fod yn aelod craidd o’r tîm gwasanaethau cwsmeriaid a warws. Enillodd hefyd Wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn Caerffili!

“Alla’i ddim credu fy mod wedi ennill y wobr hon, ond rwy’n falch fy mod wedi ei chael. Rydw i’n mwynhau’n fawr gweithio yn Adnewyddu Dodrefn, yn arbennig cwrdd â chwsmeriaid a bod yn rhan o dîm.

Andrew Davies, Gwirfoddolwr yn yr Adnewyddu Dodrefn