Rydym ni i gyd yn defnyddio gormod o ddŵr – 150 o litrau o ddŵr ar gyfer pob person pob un dydd ar gyfartaledd. Ac mae llawer o’r dŵr hwnnw’n cael ei wresogi, gyda rhyw 30 y cant o fil nwy’r aelwyd gyfartalog yn cael ei gwario ar wresogi. Mae ein cynghorwyr yn helpu pobl i leihau faint o ddŵr maen nhw’n ei ddefnyddio, gan arbed arian a lleihau’r straen ar ein hadnodd naturiol pwysicaf.

Yn y cartref ac mewn lleoliadau cymunedol, rydym ni’n cynnig cyngor a chyfarwyddyd a ffyrdd ymarferol o wneud gwahaniaeth i filiau.

Mae ein gwasanaeth yn cynnwys y canlynol:

  • Mesurau ymarferol i arbed dŵr: fel darparu amseryddion cawod, teclynnau lleihau llif dŵr y toiled a dyfeisiau eraill i leihau biliau.
  • Cyngor ar ymddygiad: helpu pobl i ddeall sut y gallan nhw arbed arian trwy ymddwyn yn wahanol, fel defnyddio eu system wresogi yn y modd mwyaf effeithlon
  • Gwirio budd-daliadau a chymorth gyda dyledion: helpu pobl i hawlio budd-daliadau nad oedden nhw, efallai, yn gwybod fod ganddyn nhw hawl iddynt, eu hatgyfeirio at asiantaethau cymorth gyda dyledion a budd-daliadau, neu’r cronfeydd caledi mae llawer o gwmnïau cyfleustodau yn eu rhedeg.
  • Cyfeirio i gael cymorth arall: Lle rydym ni’n meddwl bod angen cymorth arbenigol ar aelwyd, rydym yn ei hatgyfeirio at yr asiantaeth leol iawn. Gallai hyn fod ar gyfer gwelliannau eraill i’r cartref, neu gymorth cysylltiedig â heriau gwahanol mae’r aelwyd yn eu hwynebu, fel gwasanaethau iechyd neu gymorth i bobl hŷn sydd â risg syrthio neu beidio ag ymdopi.