Yn fwyfwy, mae cwsmeriaid eisiau prynu oddi wrth gwmnïau maent yn eu hystyried yn rhai gwyrdd. Mae ymchwil gan Unilever yn awgrymu bod 33% o gwsmeriaid eisiau prynu oddi wrth gwmnïau maent yn eu hystyried yn rhai ‘da’.
Mae ein tîm yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sydd wedi’u cynllunio i helpu’ch busnes i reoli risgiau amgylcheddol ac i wneud y mwyaf o’r nifer gynyddol o gyfleoedd sydd ar gael yn y maes hwn.
O leihau risgiau llygredd a’ch galw am ynni i gadw i fyny gyda’r gofynion cyfreithiol, rydym ni’n cynorthwyo’ch busnes i fod yn gydnerth yn wyneb hinsawdd sy’n newid.
Dyma rai o’r buddion i’ch busnes o gyflawni gwaith cynllunio cydnerthedd busnes:
- Gweithdrefnau gweithredu cadarn
- Gwella diogelwch cyflenwi / cyflawni
- Lleihau premiymau yswiriant
- Gwella hyder cwsmeriaid
- Lleihau i’r eithaf unrhyw amser anweithredol
- Gallu masnachu â’r lleiaf o darfu sy’n bosibl os bydd digwyddiad, fel yn achos y Kingfisher Cafe.
Mae ymgynghorwyr busnes profiadaol Groundwork yn darparu adborth ac argymhellion cryno a diduedd sy’n eich galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch y ffordd orau ymlaen i’ch busnes.
Mae ein gwasanaethau’n cynnwys:
- Adolygiadau atal llygredd
- Cydymffurfiaeth gyfreithiol ac archwilio amgylcheddol
- Cyfrifo ôl-troed carbon a dŵr
- Asesiadau Risg a Chyfleoedd
- Tystysgrifau Ynni i’w Harddangos
- Tystysgrifau Perfformiad Ynni
- Archwiliadau effeithlonrwydd ynni, adolygiadau gan gynnwys cydymffurfiaeth Cynllun Cyfleoedd Arbed Ynni (ESOS)
- Technolegau ynni adnewyddadwy
- Economi gylchol, datrysiadau rheoli gwastraff a dŵr
- Adolygiad o’r cyflwr amgylcheddol
Rydyn ni’n argymell Groundwork i unrhyw un sy’n ystyried gosod technoleg adnewyddadwy neu sy’n ceisio canfod beth yw ei ddewisiadau o ran effeithlonrwydd ynni. Roedd y wybodaeth oddi wrthynt yn rhoi llawer o gysur wrth wybod ein bod yn ymwneud â phobl oedd yn adnabod y farchnad, ac roedd yn wych cael eu cyngor diduedd.
– Chris Oliver, Cyfarwyddwr Cyllid Sackers