Rydym ni’n arbenigo ar helpu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas i roi hwb i’w hincwm trwy arbed ynni, er mwyn iddyn nhw allu byw’n fwy cyfforddus a lleihau eu heffaith amgylcheddol. 

Mae ein ‘Meddygon Gwyrdd’ a staff hyfforddedig eraill yn rhoi i bobl atebion ymarferol i’w problemau ynni. Yn y cartref ac mewn lleoliadau cymunedol, rydym ni’n darparu cyngor a chyfarwyddyd, yn gosod mesurau effeithlonrwydd ynni ymarferol ac yn dod o hyd i ffyrdd o leihau biliau cyfleustodau.

Mae ein gwasanaeth yn cynnwys y canlynol:

  • Mesurau effeithlonrwydd ynni ymarferol: fel gosod deunydd atal drafftiau a dyfeisiau ynni effeithlon, gan ganolbwyntio ar y prif fannau byw a ddefnyddir gan y bobl yr ydym yn ymweld â nhw
  • Newid cwmnïau cyfleustodau: helpu pobl i ddod o hyd i’r fargen ynni orau i’w hamgylchiadau personol nhw.
  • Cyngor ar ymddygiad: helpu pobl i ddeall sut y gallan nhw arbed arian trwy ymddwyn yn wahanol, fel defnyddio eu system wresogi yn y modd mwyaf effeithlon
  • Gwirio budd-daliadau a chymorth gyda dyledion: helpu pobl i hawlio budd-daliadau nad oedden nhw, efallai, yn gwybod fod ganddyn nhw hawl iddynt, eu hatgyfeirio at asiantaethau cymorth gyda dyledion a budd-daliadau, neu’r cronfeydd caledi mae llawer o gwmnïau cyfleustodau yn eu rhedeg.
  • Cartrefi iachach: cynghori ar broblemau sy’n ymwneud â lleithder, cyddwysiad a llwydni, ac atgyfeirio at ddarparwyr tai lle bo angen.
  • Cyfeirio i gael cymorth arall: Lle rydym ni’n meddwl bod angen cymorth arbenigol ar aelwyd, rydym yn ei hatgyfeirio at yr asiantaeth leol iawn. Gallai hyn fod ar gyfer grantiau am fesurau effeithlonrwydd ynni ychwanegol, neu gymorth cysylltiedig â heriau gwahanol mae’r aelwyd yn eu hwynebu, fel cymorth i ofalwr.