Cafwyd mwy na 500,000 o achosion newydd o afiechyd ymysg gweithwyr yn y Deyrnas Unedig yn 2017/18. Ydi’ch busnes chi wedi’i ddiogelu?
Rydym ni’n deall bod diogelu a hyrwyddo Iechyd a Diogelwch yn greiddiol i unrhyw gwmni cynaliadwy. Yn yr un modd, gwyddom nad yw’n hawdd cadw i fyny gyda’r gofynion o ran cydymffurfiaeth gyfreithiol a rhoi’r arferion gorau diweddaraf ar waith.
Mae Groundwork yn darparu cyngor proffesiynol ar iechyd a diogelwch i sefydliadau o bob lliw a llun. Mae ein gwasanaeth pwrpasol yn caniatáu ichi deimlo’n hyderus bod eich busnes yn cydymffurfio’n gyfreithiol a bod eich gweithwyr yn ddiogel.
Gan ddibynnu ar eich anghenion, gallwn ddarparu’n gwasanaethau unwaith neu yn barhaus.
Mae’r gwasanaethau iechyd a diogelwch a gynigiwn yn cynnwys:
- Gwasanaeth Person Cymwys Iechyd a Diogelwch Groundwork
- OHSAS 18001 / ISO 45001 / HSG 65
- Datblygu polisïau a gweithdrefnau
- Rheoli iechyd a diogelwch
- Cydymffurfiaeth gyfreithiol ac archwilio iechyd a diogelwch
- Archwiliadau ac arolygiadau mewnol
- Asesiadau sŵn
- Asesiadau risg
- Asesiad Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
- Datganiadau dull a systemau diogel o weithio
- Ymchwilio i ddigwyddiadau
- Hyfforddiant mewnol a chymwysterau iechyd a diogelwch
- Cymorth ar gyfer dogfennau tendr
- Ceisiadau contractwr diogel gan gynnwys Cynllun Asesu Iechyd a Diogelwch i gontractwyr (ceisiadau CHAS)
Gwasanaeth Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
Wrth gynorthwyo â’ch anghenion o ran cydymffurfiaeth, rydym ni’n adeiladu, cynnal ac archwilio yn erbyn eich gofynion cydymffurfiaeth o ran yr amgylchedd ac iechyd a diogelwch. Caiff ein gwasanaeth cofrestr gyfreithiol ei deilwra i’ch anghenion, gan sicrhau y cewch ddiweddariadau am y newidiadau cyfreithiol yn y maes sy’n berthnasol i chi, a bod archwilydd cymwys ar gael a all roi cyngor diduedd a gwirio’ch statws o ran cydymffurfiaeth.
Mae’r cyngor yn dda, yn gymhwysol ac yn ystyriol. Roedd yr hyfforddiant wedi’i deilwra’n effeithiol fel y gallem ei wneud yn berthnasol i hosbis a’i swyddogaethau gweithredol amrywiol. Roedd yr hyfforddwr yn gwneud dysgu am iechyd a diogelwch yn berthnasol ac yn bleserus.
– Suzanne Carr, Bury Hospice