Ydych chi’n chwilio am ffordd i feithrin sgiliau’ch gweithlu a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a sylweddol i gymunedau ar yr un pryd? Mae ein cyfleoedd i wirfoddoli ymhell ar y blaen i ymarferion adeiladu tîm arferol. Mae prosiectau cymunedol mewn bywyd go iawn yn darparu’r her berffaith i dimau a hefyd yn creu cysylltiadau hirdymor gan helpu pobl a lleoedd i gael budd o sgiliau’ch cyflogeion.

Rydym ni wedi cael adborth gwych oddi wrth gyfranogwyr sy’n dwlu ar gymryd amser i roi rhywbeth yn ôl. Rydym ni wedi helpu cwmnïau i gymryd rhan mewn creu gerddi cymunedol, gweddnewid mannau gwyrdd sydd wedi’u hesgeuluso, mentora pobl ifanc a mwy. 

Buddion

  • Effaith ar lawr gwlad: mae’ch gwaith caled chi’n adnodd anhygoel o ddefnyddiol i brosiectau cymunedol. Mae ein prosiectau ar lawr gwlad, felly byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r bobl mae eich gwaith yn eu helpu.
  • Staff llawn ysgogiad: caiff sgiliau eu datblygu a chaiff timau eu cryfhau drwy ddatrys problemau mewn bywyd go iawn y tu allan i fannau lle maen nhw’n gyfforddus. Mae’n gryn dipyn o hwyl hefyd!
  • Enw da’r busnes: byddwch yn gadael etifeddiaeth gymunedol gadarnhaol y gallwch fod yn falch ohoni ac y bydd eich cwsmeriaid yn ei gwerthfawrogi hefyd.

Y broses

Rydym ni’n gweithio gyda’ch sefydliad i ganfod gweithgareddau sydd wedi’u teilwra i’ch anghenion sefydliadol, sgiliau’ch staff a’u hanghenion o ran datblygiad. Rydym ni’n gofalu am gynllunio’r gweithgareddau, cynnwys grwpiau cymunedol a phartneriaid allanol, cyflawni’r asesiadau risg angenrheidiol a chael gafael ar ddeunyddiau ac offer os oes angen. 

Gallwch weithio gyda ni’n barhaus gyda’ch staff yn ymrwymo i roi nifer benodol o oriau’n rheolaidd, neu drwy ddiwrnodau adeiladu tîm unigol. 

Nid yw hyn am ddim – mae trefnu gweithgareddau’n cymryd llawer o amser, a chyllid cyfyngedig sydd gennym ni. Mae’r ffi a dalwch yn talu ein costau ni ac yn helpu i gadw ein helusen yn gynaliadwy.