Rydym ni’n rhedeg rhaglenni tîm a all newid bywydau. Rydym ni’n cymryd grŵp o bobl ifanc, yn rhoi cyfres o heriau iddyn nhw, yn addysgu sgiliau newydd iddyn nhw ac yn gwylio’r gwaith tîm yn tyfu ac unigolion yn datblygu mewn ychydig o wythnosau.

Gall pobl ifanc sy’n cael trafferth i ddod o hyd i’w llwybr mewn bywyd gael eu trawsnewid gan weithio gyda’u cyfoedion mewn tîm. Mewn rhai ardaloedd rydym ni’n darparu’r Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol i bobl ifanc 16-18 oed a’r Prince’s Trust Team Programme i bobl ifanc ddi-waith 16-25 oed, yn ogystal â’n cyrsiau datblygiad personol pwrpasol ein hunain.

Mae ein rhaglenni tîm yn cynnwys nifer o elfennau profedig:

  • Dysgu: cael hwyl wrth feithrin sgiliau byw ymarferol fel cyllidebu, cynllunio a byw’n iach
  • Preswyl: cyfle i roi cynnig ar weithgareddau cyffrous fel dringo creigiau, cyfeiriannu neu saethyddiaeth, gan ddysgu ymddiried yn ei gilydd mewn lleoliad ymhell o fywyd pob dydd.
  • Effaith gymdeithasol: cael boddhad o arwain prosiect go iawn sydd o fudd i’r gymuned leol, sydd yn aml yn golygu cynllunio, codi arian a gweithredu ymarferol
  • Cymorth gan gyfoedion: cyfarfod a magu clymau gyda phobl ifanc o gefndiroedd gwahanol, gan helpu i ddatblygu rhwydwaith cymorth gan gyfoedion, cynyddu cydnerthedd a lleihau arwahaniad.
  • Cydnabyddiaeth: cael gwobrau a chymwysterau a dathlu cyflawniadau a wnaethpwyd ar ddiwedd y rhaglen
  • Cyfeirio ymlaen: helpu pobl ifanc i gynllunio eu camau nesaf yn nhermau addysg, gwaith a nodau mewn bywyd – mae llawer o’n gweithwyr ieuenctid wedi dilyn ein rhaglenni datblygiad personol.