Rydym ni’n partneru gyda busnesau i’w helpu i ddefnyddio eu cryfderau unigryw er mwyn chwarae rhan gadarnhaol mewn cymunedau. Gallai hynny fod trwy harneisio sgiliau’ch staff neu ddefnyddio’ch brand i godi proffil prosiectau cymunedol gwych. Ein cam cyntaf yw eistedd i lawr gyda chi i gynllunio a datblygu partneriaeth wedi’i theilwra sy’n diwallu’ch anghenion chi – ac yn codi cyffro ynoch chi am yr effaith bosibl!
Ein nod yw sicrhau newid ar lawr gwlad yn y mannau mae arnyn nhw ei angen mwyaf. Mae hynny’n golygu ysbrydoli pobl ifanc, gweddnewid ein mannau gwyrdd, mynd i’r afael â phroblemau anodd fel diweithdra, arwahaniad a thlodi tanwydd. Mae llawer o ffyrdd i’ch busnes gymryd rhan yn y gwaith o ddyfeisio atebion creadigol.
Byddwn yn eich helpu i…
- Gysylltu â chymunedau lleol – mae ein prosiectau ar lawr gwlad, felly bydd eich staff yn gallu clywed oddi wrth y bobl mae ein partneriaeth yn eu helpu, a chyfarfod â nhw
- Ysbrydoli ac ysgogi’ch staff – gan eu helpu i deimlo eu bod yn rhan o rywbeth sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn. Gallwn gynorthwyo staff sy’n codi arian ac yn gwirfoddoli mewn gweithgareddau cymunedol
- Gwella ymwybyddiaeth o’r brand – trwy gyfleoedd i hyrwyddo a straeon cysylltiadau cyhoeddus cadarnhaol
- Cynnwys eich cwsmeriaid – trwy farchnata cysylltiedig ag achos, cystadlaethau, mecanweithiau pleidleisio ac ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol
- Gwella’ch enw da o ran cynaliadwyedd – meithrin eich enw da, gan eich helpu i gael busnes newydd
- Gadael etifeddiaeth barhaus a phendant mewn cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig
Gweithredu lleol, cwmpas cenedlaethol
Dyna pam y buom yn ddewis bartner i gannoedd o fusnesau blaengar, rhai mawr a rhai bach. Rydym ni’n gweithio mewn cymunedau o Plymouth i Newcastle felly gallwn gyfuno gwybodaeth leol go iawn gyda chwmpas cenedlaethol – gan eich helpu i greu mentrau ag effaith fawr sy’n newid lleoedd a bywydau ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.
Rydym ni wedi creu dyfodol disgleiriach i bobl ifanc gyda Skanska UK, wedi gweddnewid cymdogaethau gyda M&S a Tesco ac wedi ysbrydoli pobl i fyw mewn ffordd wyrddach gyda Thames Water. Beth allem ni ei gyflawni gyda’ch busnes chi?