Mae ar fannau gwyrdd angen gwaith rheoli gofalus er mwyn diwallu anghenion pobl sy’n byw gerllaw a bod yn hafanau i fywyd gwyllt. Rydym ni’n helpu i wneud y mwyaf o barciau gwledig, tirweddau treftadaeth, coetiroedd a mannau hamdden trwy ddatblygu cynlluniau hirdymor a cheisiadau am gyllid a thrwy gyflawni gwaith rheoli mannau gwyrdd o ddydd i ddydd.
Rydym ni’n gweithio gyda chynghorau plwyf, grwpiau ‘Cyfeillion’, awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau hamdden a datblygwyr preifat. Gallwn chwarae rhan ar bob cam yn y gwaith o ddatblygu a rheoli tirweddau, o astudiaeth ddichonoldeb i welliannau ymarferol i gefnogi modelau perchnogaeth gymunedol.
Mae ein gwasanaethau’n cynnwys y canlynol:
- Ymgynghori ac ymgysylltu â chymunedau:
- Astudiaethau dichonoldeb
- Cynhyrchu cynlluniau rheoli a chynnal a chadw
- Cyflawni contractau cynnal a chadw a rheoli contractwyr
- Gwaith rheoli a gwelliannau mewn coetiroedd
- Paratoi ceisiadau i Gronfa Dreftadaeth y Loteri
- Cynllunio yn unol â’r dull seiliedig ar ddalgylchoedd
- Recriwtio a chynorthwyo gyda gwirfoddolwyr
- Cynllunio seilwaith gwyrdd