Gwirfoddoli fel unigolyn

P’un a ydych chi eisiau cael profiad gwaith ac ehangu’ch gorwelion, dangos eich ymrwymiad i fynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol neu wneud eich cymdogaeth yn lle gwell i fyw ynddo, mae Groundwork yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i wirfoddoli, sy’n sicrhau eich bod chi a’ch cymuned yn cael budd.

Gallai gwirfoddoli rheolaidd eich helpu i ddod i adnabod eich cymdogion, eich helpu i gadw’n heini ac yn egnïol neu’ch helpu i ennill sgiliau a chymwysterau. Mae llawer o’n cyflogeion wedi dechrau ar eu gyrfaoedd gyda ni fel gwirfoddolwyr.

Os hoffech wirfoddoli gyda Groundwork, cysylltwch â’ch swyddfa leol i gael gwybod beth sy’n mynd ymlaen yn eich ymyl chi.

Gwirfoddoli corfforaethol

Gallwn ddarparu rhaglenni o ddiwrnodau gwirfoddoli gyda gwasanaeth llawn sydd wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion eich sefydliad. Mae hyn yn cynnwys diwrnodau her hwyliog, neu raglenni sy’n darparu cyfleoedd i bobl ar draws eich cwmni ac ar draws nifer o safleoedd. Mae pob un yn galluogi’ch staff i ddysgu sgiliau newydd, yn meithrin ysbryd tîm ac ysgogiad ac yn cynnig i’r gwirfoddolwyr ymdeimlad gwych o gyflawniad wrth wneud rhywbeth ystyrlon.

Mae buddion gwirfoddoli, i’ch busnes ac i’ch pobl, yn cynnwys:

  • staff sy’n fwy bodlon, â mwy o ysgogiad ac yn hapusach
  • gwell cysylltiadau rhwng timau mewnol
  • mwy o allu i ddenu a chadw talent
  • mwy o ymwybyddiaeth o’r brand a theyrngarwch ato
  • cyfleoedd hyrwyddo a storïau cadarnhaol ym maes cysylltiadau cyhoeddus
  • gwell perthnasoedd yn y cymunedau rydych chi’n gweithredu ynddyn nhw.

Mae Groundwork yn codi tâl am wirfoddoli corfforaethol er mwyn talu ein costau. Cysylltwch â ni i drafod y strwythur prisiau gorau i’ch tîm chi.

Cysylltu â ni