Yn Groundwork gwyddom nad oes gwerth mewn esgeuluso amgylcheddau sydd â’r potensial I ffynnu a gweithredu fel catalyddion ar gyfer twf a ffyniant yn ystyr ehangaf y geiriau.

Healthy RiversRydym yn gweithio I greu cymdeithas sy’n cydnabod gwerth yr amgylchedd lleol a byd-eang, gan annog unigolion a chymunedau I barchu’r lleoedd y maent yn byw ynddynt. Ar y cyd rydym yn gweithio tuag at ddatblygiad poblogaeth fedrus y gwyddom sy’n arwain at greu cyfoeth a chyflogaeth yn y gymuned ehangach.

Mae ein rhaglen amgylcheddol gymunedol wobrwyedig Afonydd Iach yn gweithredu I hyrwyddo byw a gweithio gwyrddach, cynorthwyo I ddysgu am effaith amgylcheddol, a gwella rhagolygon pobl drwy gynddu hyder, sgiliau a chyflogadwyedd y rheini sy’n aml bellaf oddi wrth y farchnad lafur, yn arbennig pobl ifanc.

Erbyn hyn mae Afonydd Iach wedi’I sefydlu’n gadarn fel rhaglen flaenllaw yn maes adfer afonydd yn ne ddwyrain Cymru. Mae ceuffos Afon Nant yr Aber o dan yr A468, Caerffili, yn un enghraifft wych.

Gan weithio gyda’n partneriaiad sector cyhoeddus a phreifat, Cadwch Gymru’n Daclus, Cyfoeth Naturiol Cymru a Tesco (drwy’r cynllun ‘Bags For Help’) mae gwirfoddolwyr Afonydd Iach wedi bod yn rhoi o’u hamser I symud 50kg o sbwriel fel y gellid gosod cyfres o fafflau pren ar hyd y geuffos er mwyn cynorthwyo ymfudiad ac ailgyflenwad psygod. Mae 480 metr sgwâr o gynefin wedi’I wella.

Ond nid dyna’r cyfan. Mae’r gwirfoddolwyr nid yn unig wedi cael gwerthfawrogiad o systemau afonydd a sensitifrwydd tuag at werth eu dyfrffyrdd lleol, ond hefyd wedi datblygu sgiliau cyfathrebu, sgiliau gweithio tîm, a hwb I hyder a lles meddyliol. Mae llawer erbyn hyn mewn gwell sefyllfa ar gyfer cyflogaeth llawn amser. Mae rhai eisoes wedi cael hynny.