Cysylltu cymunedau ar ffiniau Cymru a Lloegr

Mae Groundwork Gogledd Cymru yn lansio Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol i ddatblygu mentrau lleol er mwyn gwella’r rheilffordd rhwng Caer a Crewe a chefnogi’r cymunedau sy’n byw gerllaw’r llinell.

Mae Rheilffyrdd Cymunedol yn fudiad llawr gwlad sy’n cynnwys Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol a grwpiau ar draws y DU. Eu nod cyffredinol yw ymgysylltu â chymunedau a helpu pobl i wneud y mwyaf o’u rheilffyrdd, hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a theithio cynaliadwy, gweithio gyda gweithredwyr trenau i wneud gwelliannau a dod â bywyd newydd i orsafoedd.

Nod y Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol yw datblygu a hyrwyddo’r rheilffordd rhwng Caer / Wrecsam /Amwythig/ Crewe fel rheilffordd werdd sy’n cynnwys y gymuned yn ei gweithgareddau, yn darparu cyfleusterau deniadol yn y gorsafoedd, yn cysylltu’n wych â mathau eraill o drafnidiaeth, yn rhoi gwasanaeth sy’n bodloni anghenion pobl leol ac ymwelwyr, gan gynnig gwerth am arian gwych i deithwyr ar yr un pryd.

Mae Rheilffordd Caer /Wrecsam /Amwythig / Crewe yn gyswllt hanfodol rhwng cymunedau ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr a bydd y rhaglen yn datblygu ac yn cefnogi nifer o’r mentrau gwyrdd canlynol ar hyd y llinell.

Twristiaeth gynaliadwy:  annog pobl leol i deithio mewn ffordd fwy cynaliadwy ar y rheilffordd i gysylltu â chyfleusterau lleol/atyniadau twristaidd / lleoedd awyr agored /teithiau cerdded lleol.

Cymunedau Iachach: annog gweithgareddau iach yn yr awyr agored drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar y Rheilffordd a mentrau gwirfoddol ar gyfer yr henoed a phobl ifanc.

Gwirfoddoli ac Adfywio: cefnogi gwirfoddolwyr, ffrindiau, ysgolion, a grwpiau ieuenctid i ofalu am orsafoedd lleol a’u gwneud yn fwy gwyrdd ac yn fwy hygyrch.

Ein tasg gyntaf fydd dechrau ar ein hymgyrch farchnata ddigidol, hyrwyddo’r gweithgareddau newydd ac ymgysylltu â’r gymuned ar y cyfryngau cymdeithasol a datblygu gwefan newydd.